Lyfr y Psalmau 67 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Duw, wrthym trugarhâ,

Dy fendith dyro Di;

Tywynned fyth ogoned wedd

D’ wynebpryd arnom ni.

2Adwaenir felly ’th ffordd

Trwy ’r ddaear fawr i gyd;

Adwaenir iachawdwriaeth Duw

Ym mhlith holl bobloedd byd.

3Moled y bobl, O Dduw,

Dy Enw mawr a’th ras:

Ag uchel glod molianned Di

Holl bobl y ddaear las.

4Pob iaith a llwyth yn llon

A ganant am dy ddawn;

Tydi sy ’n Llywydd arnynt byth,

Tydi a’u berni ’n iawn.

YR AIL RAN

5Moled y bobl, O Dduw,

Dy Enw mawr a’th ras;

Ag uchel glod molianned Di

Holl bobl y ddaear las.

6Cawn felly gynnyrch mad

O ffrwythau ’r ddaear laith,

Ac enfyn Duw, ein Harglwydd ni,

Ei fendith ar ein gwaith.

7Ein grasol Ion a rydd

Ei fendith in’ o’r nef

A holl derfynau ’r ddaear gron

Drwy barch a’i hofnant Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help