Lyfr y Psalmau 108 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Parod yw ’nghalon, parod iawn

Yw ’nghalon lawn a helaeth;

Deffro, fy hoff ogoniant gwiw,

A chân i Dduw ganmoliaeth.

2Deffro, fy nabl a’r delyn fwyn,

Deffrôed holl swyn eich seiniau;

Deffroaf finnau ’n fore iawn

I ddeffro dawn eich tannau.

3O Dduw, clodforaf Di ’n ddi‐goll

Ym mysg yr holl genhedloedd;

Canmolaf Di â llawen fryd

Ger bron y byd a’i bobloedd.

4Mawr yw ’th drugaredd, Arglwydd gwâr,

Hyd eitha ’r wiwnef lwyswen;

A’th bur wirionedd uwch y byd

A gyrraedd hyd yr wybren.

5Ymddyrcha ’n uchel, Arglwydd Ner,

Uwchlaw uchelder nefoedd;

A bydded dy ogoniant ar

Y ddaear a’i hamgylchoedd.

6O gwared â’th ddeheulaw, Ion,

Dy blant anwylion eiddil;

A gwrando finnau ar eu rhan,

Heb oedi, pan bwy ’n ymbil.

YR AIL RAN

7Yn ei sancteiddrwydd meddai Naf,

“Llonnychaf, rhannaf Sichem,

A mesur dyffryn Succoth wnaf,

Fe ’i rhoddaf i Gaersalem.

8“Mae Gilead draw yn eiddof Fi,

Manasseh i Mi sy ’n drigfa;

Ac Ephraim yw fy mhennaf wr,

A’m deddfwr ydyw Judah.

9“Golchi fy nhraed gaiff Moab ffrom,

Dros Edom f’ esgid taflaf;

A balchder gwlad Philistia gerth

Yn llwyr â’m nerth gorchfygaf.”

10Pwy ’m dwg i’r gaerog ddinas draw?

Pwy yn fy llaw a’i dyry?

Pwy im’ a ddaw ’n arweinydd mad

Hyd Edom wlad i’w threchu?

11A’i nid Tydi, yr Hwn, O Ner,

A’n tro’ist dros amser heibio,

Ac nid ait allan gyd â ’n cad

Yn Noddwr mad i’n helpio?

12O moes yn awr gynnorthwy, Ner,

Rhag ail gyfyngder inni;

Os rhoi ar ddyn ein hyder wnawn,

Gan hwnnw cawn ein siommi.

13Gwrolwaith gwych yn Nuw a wnawn,

Ei nerth a gawn i’n diffyn;

Canys efe mewn munud awr

A sathra i lawr ein gelyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help