Lyfr y Psalmau 51 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Arglwydd, Tad y trugareddau,

Moes drugaredd rad i mi;

Trugarhâ wrth f’ enaid euog,

Duw tosturiol iawn wyt Ti:

Arglwydd grasol,

Maddeu ’meiau mawr i gyd.

2Golch fi ’n lân oddi wrth fy mhechod,

Golch fi ’n lân, a llwyr, a dwys;

Pura fi oddi wrth f’ anwiredd,

Tyn fi ’n rhydd o dan ei bwys:

O Sancteiddydd,

Golcha f’ enaid brwnt yn wyn.

3Wele ’r wyf yn llwyr gydnabod

Drwg fy mai o’m bodd yn rhwydd;

Nid wy ’n celu mo ’m camweddau,

Maent yn wastad yn fy ngŵydd.

Euog ydwyf,

Drwg ac euog, Arglwydd Ior.

4Yn dy erbyn Di dy Hunan

Y troseddais, Arglwydd Rhi;

A phe bernit Ti fi ’n euog,

Glân ac uniawn fyddit Ti;

Euog ydwyf,

Drwg ac euog, Arglwydd Ior.

5Wele ’m lluniad cyn fy ngeni

Oedd mewn llygredd pechod du;

Mewn anwiredd a drygioni

Y’m hymddygwyd yn y bru:

Gan fy llygredd,

Aflan wyf o groth fy mam.

YR AIL RAN

6Ceraist wirionedd, Arglwydd Ion,

O fewn y galon fau;

A dysgi im’ yn gudd dan sêl

Wybodaeth bur yn glau.

7Glanhâ fi ’n wyn â gwaed yr Oen,

Ag isop golch fi ’n lân;

Ac yna gwynnach fydd fy lliw

Na ’r claerwyn eira mân.

8O par im’ glywed hyfryd lais

Llawenydd pur heb fraw,

I lonni ’r esgyrn briw sy ’n llesg

Dan gerydd llym dy law.

9Tro ’th wyneb, Ior, oddi wrth fy mai,

Rwy ’n ofni gwg dy wedd;

Dilea ’mhechod brwnt yn llwyr,

A dangos im’ dy hedd.

Y DRYDEDD RAN

10Duw, crea galon lân

O’m mewn, ac anian dduwiol;

Dod yspryd newydd yn fy mron,

Sef yspryd union grasol.

11Na fwrw fi o’th ŵydd,

Rwy ’n erfyn, Arglwydd nefol;

Na ddwg, tra fyddwyf yn y byd,

Oddi arnaf d’ Yspryd dwyfol.

12O dod drachefn i’th was

Orfoledd gras diddanus;

A dal fi i fynu dan fy nghur

A’th Yspryd pur, haelionus.

13Ac yna dysgu wnaf

Dy ffyrdd, fy Naf, i’r anwir;

A hwythau attat, Arglwydd da,

Yn lluoedd a ddychwelir.

14Rhag gwaed O gwared fi,

Fy Nuw, a Rhi fy iechyd;

A’m tafod am d’ unionder glân

Dros fyth a gân yn hyfryd.

Y BEDWAREDD RAN

15O tyred, Arglwydd Ior,

Ac agor fy ngwefusau;

Ac felly ’th foliant nos a dydd

A draetha ’n rhydd fy ngenau.

16Poeth‐offrwm drud ei werth

Nac aberth ni ’s chwennychi,

Neu byddwn fore a phrydnhawn

Yn barod iawn i’w rhoddi.

17Yr aberth hoff gan Dduw,

Yw yspryd briw drylliedig;

Ti ni ’s dirmygi, Arglwydd Ion,

Mo ’r galon gystuddiedig.

18Bydd dda, O Arglwydd Ion,

O’th fodd wrth Sïon burlan;

O’r newydd adeilada fur

Dy Salem bur dy Hunan.

19Fel hyn i’n hebyrth hedd

Y bydd dy wedd yn foddlon;

Fel hyn aberthwn ychen clau

Ar dân d’ allorau ’n gyson.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help