1Ar Dduw ’rwyf yn wastad yn edrych,
Sy â’i drigfod yn entrych y nen;
2Fel gweision daearol cyfarwydd
Ar amnaid eu harglwydd a’u Pen;
Neu fel y mae llygaid y llangces
Ar ddwylaw ei meistres bob pryd;
Fel hynny disgwyliwn am arwydd
Graslonrwydd ein Harglwydd o hyd.
3Duw, moes dy drugaredd ragoraf
A’th gariad anwylaf i ni;
Yn ddirfawr fe ’n llanwyd â dirmyg
Gan ddynion nid tebyg i Ti:
4Yn ddirfawr y llanwyd ein calon
A gwarthrudd gwŷr beilchion y byd;
A’r rhai sy ’n oludog a’n gwawdiant
Yn ffrom y’n gwatwarant o hyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.