Lyfr y Psalmau 26 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Barn Di, O Arglwydd Dduw, fy ngwaith,

Fy ffyrdd yn berffaith fuant:

Yr Arglwydd im’ yn hyder wnaed,

Am hyn fy nhraed ni lithrant.

2Hola fi, Arglwydd, yn dy ras,

A phrawf dy was a’i lwybrau;

A chwilia ’n ddyfal ar bob cam

Fy nghalon a’m harennau.

3Dy rad drugaredd sy ’n ddi‐baid

O flaen fy llygaid effro;

Ac yngoleuni pur dy air

O hyd y’m cair yn rhodio.

4Ynghyd â dynion coegion byd

Eriôed ni chyd‐eisteddais;

A chyd â’r cas d’wyllodrus rai

Ar ffordd eu bai ni cherddais.

5Llïaws y drwg a’u cynnull‐fan

Sy ffiaidd gan fy nghalon;

Ac nid eisteddais i wneud rhan

O gynghor annuwiolion.

YR AIL RAN

6Fy nwylaw ’n ddyfal golchaf fi

Yn lân mewn diniweidrwydd;

At dy lân Allor felly ’r af

Ac a’i hamgylchaf, Arglwydd:

7Er mwyn cyhoeddi gwyrthiau ’r nef

A llafar lef clodforedd,

A chyflawn draethu ’n hyf ar goedd

Dy holl weithredoedd rhyfedd.

8Dy Dŷ, O Dduw, a hoffa ’th was,

Lle mae dy ras yn trigo,

Lle mae pur wawl d’ ogoniant mad

Yn wastad yn preswylio.

9Na chynnull f’ enaid, Arglwydd Dduw,

Byth gyd â didduw ddynion,

Na ’m bywyd gwirion byth ynghyd

A dynion gwaedlyd creulon;

10Y rhai y mae eu dwylaw traws

Yn llawn o naws anwiredd;

A llawn yw eu deheulaw gau

O ffiaidd wobrau ffalsedd.

11Ond bydd fy rhodiad i a’m gwaith

Yn lân a pherffaith, Arglwydd:

O gwared f’ enaid, trugarhâ,

Ac immi gwna raslonrwydd.

12Fy nhroed heb ysgog, Arglwydd Ion,

A saif ar union lwybrau:

Bendigaf d’ Enw mawr ar gân

O fewn dy lân gynteddau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help