1O rhynged bodd it’, Arglwydd Naf,
Dd’od attaf i’m gwaredu;
Heb oedi tyred, Ion, ar frys
O’th uchel Lys i’m helpu.
2Y rhai sy’n ceisio f’ einioes, Ner,
Gwarthrudder am eu brynti;
Gyrrer yn ol y rhai mewn gwawd
Sy ’n chwennych anffawd immi.
3Yn wobrwy am eu gwaith i gyd,
A gwawd eu coeglyd araith,
Am dd’wedyd wrthyf fi, “Ha! ha!”
Duw ’r dïal, gwna hwy ’n anrhaith.
4Llawen fo pawb a’th geisiant, Ion,
Gan garu ’th dirion iechyd;
A llafar ganant tra bônt byw,
“Mawryger Duw ein bywyd.”
5Tlawd ac anghenog wyf yn byw,
Ond meddwl Duw am danaf;
Fy mhorth a’m nodded wyt yn wir,
Nac oeda ’n hir dd’od attaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.