1Mor dda, mor hyfryd yw
Fod brodyr yn byw ’nghŷd;
2Mae ’n fwy o lawer iawn ei werth
Na ’r ennaint prisfawr drud,
A red ar hyd y farf,
Barf Aaron, gwas y nef;
Oddi ar ei ben y rhed i lawr
Hyd odre ’i wisgoedd ef.
3Y gwlith o Hermon fryn
Ireiddia Sïon lân;
Felly mae ’r brodyr hoff sy ’n byw
Mewn cariad diwahân.
Yn sanctaidd Sïon fryn,
Ei Eglwys lân ddi‐lyth,
Gorch’mynodd Duw i’w fendith fod,
Sef nefol fywyd byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.