Lyfr y Psalmau 40 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Disgwyliais wrth yr Arglwydd Ner,

Gan ddyfal arfer gweddi;

Gostyngodd Yntau at fy nghais,

A chlybu ’m llais yn gwaeddi.

2O’r dyfnder croch, o’r dom a’r llaid,

Y rhoes i’m henaid godiad;

Fy nhraed ar gadarn graig a rôdd,

A hwyliodd fy ngherddediad.

3Rhoes yn fy ngenau fawl i rad

Fy Nuw mewn caniad newydd;

Llawer wrth weled, ofni wnant,

Ac ynddo credant beunydd.

4Gwyn fyd y gwr, mor ddedwydd yw!

I’r hwn bo Duw yn hyder;

Heb droi at falch nac anwir ffol,

Ond byw yn ol unionder.

5Mor aml yw ’r gwyrthiau, Arglwydd Rhi,

Mae d’ allu Di ’n eu gwneuthur!

D’ amcanion tu ag attom ni

Sydd heb na rhi’ na mesur:

Ni’s gellir, gan eu nifer maith

Gyflawni ’r gwaith o’u cyfrif;

O un i un pe ’u traethu wnawn,

Eu swm a gawn yn ddirif.

YR AIL RAN

6Offrwm, O Dduw, ni fynnit Ti,

Poeth‐aberth ni ddymunaist;

Ond fel y byddwn itti ’n was,

Fy nghlust, trwy ras, a dyllaist.

7Yna dywedais, “Wele Fi

Wrth d’ ’wyllys Di yn dyfod;

Yn ol plyg llyfr arfaethiad nef

A’i ’sgrifen ef, ’rwy ’n barod.”

8Fy hoffaf waith, O Dduw di‐lys,

Yw gwneud d’ ewyllys cyfion;

A’th gyfraith sydd, bob iot a rhan,

Yn nyfnaf fan fy nghalon.

9Pregethais i’r gymmanfa lawn

Y gyfraith iawn a wnaethost;

Fy ngenau nid atteliais chwaith,

Ti, Dduw, fy ngwaith a wyddost.

10Ni chuddiais gyfiawn waith dy law

Yn ddistaw yn fy nghalon;

Traethais yn llawn ger bron y byd

Dy ras a’th iechyd ffyddlon.

Ni chelai ffyddlon zel dy was

Mo ’th ryfedd ras trugarog;

Cyhoeddais dy wirionedd glwys

O fewn yr Eglwys boblog.

11Tithau nac attal, Arglwydd mau,

Dy drugareddau rhagof;

Gwareded fi dy ras di‐lyth,

Heb adu byth mo honof.

Y DRYDEDD RAN

12Drygau heb rif a ddaeth yn gylch

O amgylch ogylch f’ enaid;

Fy mai a’m deil; ni ’s gallaf ddim

I’r nefoedd godi ’m llygaid.

Amlach na gwallt fy mhen yw rhif

Fy meiau dirif weithian;

Am hynny pallodd yn fy mron,

Gan fraw, fy nghalon egwan.

13O rhynged bodd it’, Arglwydd Naf,

Dd’od attaf i’m gwaredu;

Heb oedi tyred, Ion, ar frys

O’th uchel lys i’m helpu.

14Y rhai sy ’n ceisio f’ einioes, Ner,

Gwarthrudder am eu brynti;

Gyrrer yn ol y rhai mewn gwawd

Sy ’n chwennych anffawd immi.

15Yn wobrwy am eu gwarth i gyd,

A gwawd eu coeglyd araith,

Am dd’wedyd wrthyf fyth “Ha! ha!”

Duw’r dïal, gwna hwy ’n anrhaith.

16Llawen fo pawb a’th geisiant, Ion,

Gan garu ’th dirion iechyd;

Yn llon dywedant tra bônt byw,

“Mawryger Duw ein bywyd.”

17Tlawd ac anghenog wyf yn byw,

Ond meddwl Duw am danaf:

Fy mhorth a’m nodded wyt yn wir,

Nac oeda ’n hir dd’od attaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help