1Clyw, Fugail Joseph nos a dydd,
Tydi, Fugeilydd Iago;
Eiste’ ’rwyt rhwng cerubiaid glân,
Disgleiria ’n dân oddi yno.
2Ephraim, Manasseh, Benjamin,
Ar d’ ol yn fyddin deuant;
Cyfod o’u blaen dy gryfder mawr,
A phâr yn awr in’ lwyddiant.
Chorus.3Dychwel ni attat, Arglwydd Rhi,
Yn d’ eiriau Di mae ’n bywyd;
Llewyrched arnom wawr dy hedd,
Dy siriol wedd a’n gweryd.
YR AIL RAN4Pa hyd y sorri, Arglwydd nef,
Wrth dostur lef ein gweddi?
5Rhoist ddagrau ’n fwyd yn helaeth in’,
A dagrau i’n dïodi.
6Yn gynnen ac ymryson blin
Y’n rhoddaist i’n cym’dogion;
Ein cred a’n gobaith ym mhob man
A wawdir gan elynion.
Chorus.7Dychwel ni attat, Arglwydd Rhi,
Yn d’ eiriau Di mae ’n bywyd;
Llewyrched arnom wawr dy hedd,
Dy siriol wedd a’n gweryd.
Y DRYDEDD RAN8Mudaist o’r Aipht winwŷdden las
I randir bras dy winllan;
A gyrraist, er mwyn plannu hon,
Genhedloedd cryfion allan.
9O’i blaen arloesaist, a’i gwraidd llawn
Yn llydan iawn ymdaenodd;
10Ei chysgod cuddiai fryniau ’r tir
A’r wlad cyn hir a lanwodd.
Fel gwychion gedrwŷdd uchel frig
Oedd twf ei thewfrig harddlon;
11Estynai ei grawn‐sypiau gwin
O’r môr hyd fin yr afon.
12-13Oh! pa’m y rhwygaist gaeau hon,
Nes mae ’r fforddolion beunydd
A baeddod a gwylltfilod byd
Yn difa ’nghyd ei chynnydd.
14O dychwel, dychwel, Arglwydd mawr,
O’r nef i lawr i ganfod;
A’th hen winwŷdden, Ior, ymwêl
Yn awr, a gwel ei difrod.
15Ymwêl â’th winllan, Arglwydd Rhi,
Dy ddwylaw Di a’i plannodd;
Ymwêl â’th hen Blanhigyn per,
Dy gryfder a’i cyfnerthodd.
16Ysir hi gan y tân yn awr,
n llwyr i lawr fe ’i torrwyd: —
Difethir ei hanrheithwŷr hi
A’th gerydd Di a’th arswyd.
17Dros Wr deheulaw ’th rym bo ’th law,
Dy nerth i’w lwyddaw rhoddaist;
Poed nawdd dy law dros Fab y dyn,
I Ti dy Hun y ’i nerthaist.
18Felly ni chiliwn byth yn ol,
Fel gynt, yn ffol o’th lwybrau;
Bywhâ ni; galwn ninnau mwy
Ar d’ Enw trwy ein dyddiau.
Chorus.19Dychwel ni attat, Arglwydd Rhi,
Yn d’ eiriau Di mae ’n bywyd;
Llewyrched arnom wawr dy hedd,
Dy siriol wedd a’n gweryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.