Lyfr y Psalmau 22 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Paham, fy Nuw, ’m gwrthodaist?

Paham yr wyt mor gudd

Oddi wrth fy iachawdwriaeth

A llais fy llefain prudd?

2Y dydd och’neidio ’r ydwyf,

Ond ni ’m gwrandewi ddim;

’Rwy ’n llefain y nosweithiau,

Ac nid oes osteg im.’

3Ond Ti wyt lân, a’th drigfod

Ym mawl dy bobl dy Hun:

4Ein tadau credent ynot,

Ni siommwyd gobaith un;

5Llefasant arnat, Arglwydd,

Nid ofer oedd eu gwaith;

Ni siommwyd un o honynt

Ni’s gwaradwyddwyd chwaith.

6A mi nid wyf ond pryfyn,

Nid gwr, ond pryfyn tlawd;

Yn warthrudd meibion dynion,

I bobloedd byd yn wawd;

7Pawb a’r sy ’n edrych arnaf,

Mewn dirmyg rhônt im’ sen,

Gan laesu gwefl watwarus

Ac ysgwyd gwawdus ben. —

8“Hyderodd yn yr Arglwydd,

Gwareded Yntau ef;

Ei was yr Ior achubed,

Sy’n hoffi Brenhin nef.” —

9Tydi o’r groth a’m tynnaist

I rodio daear gron;

A gwnaethost im’ obeithio

Yn faban wrth y fron.

YR AIL RAN

10O’r groth y’m bwriwyd arnat,

Wyt immi ’n Dduw o’r bru;

11O na fydd bell oddi wrthyf,

Gerllaw mae tristwch du;

Ac nid oes neb yn agos

I’m cymmorth ond Tydi;

12Yn ddirfawr lu cylchynodd

Gwrdd deirw Basan fi.

13Fel rheibus lew yn rhuo,

Ymsafnent arna ’i ’n drwch;

14Tywalltwyd f’ enaid ymaith,

Fel dwfr ar lawr i’r llwch;

A’m hesgyrn ymwahanodd,

Mae ’m calon wan fel cwyr

Ynghanol f’ ymysgaroedd;

Hi doddodd oll yn llwyr.

15Fy nerth, fel pridd‐lestr, gwywodd,

A’m tafod glŷn, gan gri,

Wrth daflod sych fy ngenau;

I angau dygaist fi:

16Fel cwn y’m hamgylchynodd

Llu ’r anwir am fy ngwaed;

A thrwodd trywanasant

Y dwylaw mau a’r traed.

17Fy esgyrn gallaf gyfrif,

Maent arnai ’n tremio ’n chwith;

18Fy nillad oll a rannant

Wrth goelbren yn eu plith.

19Duw, na fydd bell oddi wrthyf,

Yn brysur gwared fi;

Fy nghymmorth a’m cadernid,

Fy nerth a’m grym wyt Ti.

20O gwared f’ enaid ofnog

Rhag brath y cleddyf du;

O feddiant cwn uffernol

Dwg f’ unig enaid cu:

21O safn y llew a’m llarpiai,

Duw, gwared fi yn dy ras;

O ganol unicorniaid

Gwrandewaist lef dy was.

Y DRYDEDD RAN

22Dy enw, Ior, a draethaf

I’m brodyr oll yn awr;

Clodforaf Di lle clywo

Y gynnulleidfa fawr:

23Chwychwi sy ’n ofni ei Enw,

Moliennwch Arglwydd nef;

Had Jacob, gogoneddwch,

Had Israel, ofnwch Ef.

24Cystuddiol ing y rheidus

Ni wawdiodd Arglwydd nef;

Ei wedd ni chuddiodd rhagddo,

Ond clybu lais ei lef:

25Dy fawl a draetha ’m tafod

Yn llu ’r gymmanfa fawr,

A’m haddunedau talaf

Ger bron dy Saint yn awr.

26Fe gaiff y tlodion fwytta,

Diwellir hwynt yn llawn;

Y rhai sy ’n ceisio ’r Arglwydd

A’i molant Ef yn iawn:

Chwychwi gewch fyw ’n dragywydd;

27A holl derfynau ’r byd

A droant at yr Arglwydd,

Addolant Ef i gyd.

28Can ’s eiddo ’r Arglwydd Frenhin

Yw ’r deyrnas eang fawr;

Ei orsedd Ef sy ’n uchaf

Ar bobloedd daear lawr:

29A holl rai breision daear,

Addolant a bwyttânt;

A’r rhai i’r llwch sy ’n disgyn,

O’i flaen ymgrymmu wnant.

’Does neb all gadw bywyd

Ei enaid gwan ei hun:

30Ei had a’i gwasanaethant,

Dônt iddo ’n bobl bob un;

31Hwy ddeuant dan gyhoeddi

Ei lân gyfiawnder gwiw;

I’r oes a ddaw mynegant

Mai hyn yw gwaith ein Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help