1I’r Arglwydd cenwch newydd gân,
Ei waith a wnaeth sy ryfedd iawn;
Ei ddehau law, ei sanctaidd fraich,
Dug iddo fuddugoliaeth lawn.
2Ei gywir farn hyspysodd Ior,
A iachawdwriaeth fawr ei ras;
Pregethir a chyhoeddir hwy
I holl genhedloedd daear las.
3Ei ras a’i wir i Israel lân
Yn awr a gofiodd ein Duw Rhi;
A holl derfynau ’r ddaear gron
A welsant iechyd ein Duw ni.
4Cenwch yn llafar, yr holl fyd,
Cenwch yn llafar i Dduw nef;
Ymlawenhêwch a chenwch oll,
Poed uchel eich soniarus lef.
5Cenwch â’r delyn i Dduw Ion,
A psalm o fawl a’r delyn ber,
6Ar udgyrn a sain trwmped cryf
Yn llafar i’n brenhinol Ner.
7Rhued y môr ac sydd o’i fewn,
Y ddaear ac sydd ynddi i gyd;
8Cured y llif ei ddwylaw llaith,
Cyd‐gordied holl fynyddoedd byd,
9O flaen yr Ior; mae ’n d’od i farn,
I farnu ’r ddaear oll yn iawn;
Y byd yn gyfiawn barn Efe,
A’r bobloedd âg uniondeb llawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.