1Canaf am ras a barn yn wiw,
I Ti, fy Nuw, y canaf;
2Deallus mewn ffordd dda bwyf fi, —
Pa bryd y deui attaf?
O fewn fy nhŷ fe fydd fy ngwaith
Yn bur o berffaith galon;
3Ni rôf ddim drwg o’m blaen ychwaith,
Caseais waith y beilchion.
4Oddi wrthyf cilia calon falch,
Dyn coegfalch nid adwaenaf;
Ni lŷn ei falchder wrthyf fi,
Ei wyneb ni arddelaf.
5Yn ddirgel a enllibio ’i frawd,
Ymaith mewn gwawd y ’i torraf;
Y galon falch a’r golwg syth,
Eu goddef byth ni ’s gallaf.
6Ar y ffyddloniaid syllaf fi,
Fel gyd â mi y trigant;
Y rhai a rodiant yn ddi‐nam,
Y rheiny a’m gwas’naethant.
7Y sawl a dwyllo ’i frawd mewn dim,
Na ddeled i’m preswylfa;
Yr anwir fyddo ’m mhell o’m gŵydd,
A chelwydd o’m hanneddfa.
8Yr annuwiolion cyn bo hir
I gyd o’r tir a dorraf;
A phawb yn weithwŷr drwg sy ’n byw,
O ddinas Duw diwreiddiaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.