1Arglwydd, clyw fi ’n llefain arnat,
Erglyw lais fy ngweddi brudd;
2O eithafion pella ’r ddaear
Galwaf arnat nos a dydd.
Pan lesmeirio ’m calon egwan,
Dwg fi i graig sydd uwch na mi:
3Buost immi ’n dŵr o nodded
Rhag fy ngelyn, Arglwydd Rhi.
4Yn dy babell anwyl hyfryd
Y dymunwn fod fy nyth;
Dan d’ adenydd, Ior, y llechaf,
Yma rhof fy hyder byth:
5Clywaist Ti fy addunedau,
Clywaist, a derbyniaist hwy;
Rhoist i’th weision etifeddiaeth,
Nid oes etifeddiaeth fwy.
YR AIL RAN6I’r brenhin rhoi estyniad oes,
Teg einioes hirfaith amser;
Ei flwyddi fyddant i barhâu
Fel cenhedlaethau lawer.
7Erys ei orsedd tra fo byw
Byth ger bron Duw yn uchel.
Oh! darpar wir a gras y ne’
I’w gadw fe ’n ddïogel.
8I’th Enw felly canaf fawl,
Clod didawl yn dragywydd;
A thalaf yn y cyntedd tau
Fy addunedau beunydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.