1Fy iechyd yw Duw, a’m goleuni,
Rhag pwy rhaid im’ ofni mewn braw?
Nerth f’ einioes yw Duw a’i amddiffyn,
Pa elyn i’w ddychryn a ddaw?
2Fy nghas wrthwynebwŷr, wrth f’ erlyn,
Pan daethant i’m herbyn ynghyd
I fwytta fy nghawd, hwy syrthiasant,
A chodwm a gawsant i gyd.
4Un peth yw taer weddi fy mywyd,
A’i ofyn ’rwy ’n ddiwyd gan Dduw;
Hyn fydd fy ngwastadol erfyniad,
A thaeraf ddymuniad im’ yw;
Cael byw yn Nhŷ ’r Arglwydd heb syflyd
Drwy ’r cyfan o’m bywyd i’m bedd,
I ganfod ei harddwch gogoned,
A ’mofyn am weled ei wedd.
YR AIL RAN5Pe llu a wersyllai i’m herbyn,
Nid ofnwn er hyn ei sarhâd;
Hyderus yw ’m calon o herwydd
Mai ’m nodded yw ’r Arglwydd a’i rad:
Fe ’m cuddia fi ’n nydd brad a dichell,
Ei gafell yn gastell a gaed;
Ei babell fydd immi ’n orchuddiad,
Ar graig y bydd rhodiad fy nhraed.
6Uwchlaw fy ngelynion cadarna’
Fy mhen a ddyrchafa Duw fry;
Am hynny ’r aberthaf orfoledd
Ynghyntedd mad annedd ei Dŷ;
I hwn gyd â’r Saint yr esgynaf,
Ac yma canmolaf fy Nuw;
A’m llais ac â’m hoffder pereiddiaf
Y canaf tra byddaf fi byw.
Y DRYDEDD RAN7Clyw, Arglwydd, fi ’n ymbil mewn ochain,
A gwrando fy llefain a’m llais;
Dod im’ dy drugaredd sancteidd‐lân,
Ac atteb fy nghwynfan a ’nghais:
8Pan erchaist im’ geisio ’th wynebpryd,
(Mwy hyfryd na ’mywyd im’ yw!)
Fy nghalon attebodd yn hyfryd,
“Mi geisiaf d’ wynebpryd, fy Nuw.”
9Na chuddia d’ wynebpryd yn ddigllon,
Fy nghymmorth, Ion tirion, wyt Ti;
Na ad ac na wrthod fi hefyd,
Wyt iechyd fy mywyd i mi:
10Pan ydyw fy nhad a’m cenhedlodd,
A’m mam a’m hesgorodd mor gu,
Yn troi ’n annaturiol yn f’ erbyn,
Yr Arglwydd a’m derbyn i’w Dŷ.
Y BEDWAREDD RAN11O dysg yn dy ffordd i mi gerdded,
A’m henaid arweinied dy ras
Mewn llwybrau sydd union i’w dilyn,
O herwydd fy ngelyn a’m cas;
12Ac na ddyro f’ enaid, ’rwy ’n erfyn,
I ’wyllys fy ngelyn a’i frad; —
Gau dystion, rhai trawsion a chyndyn,
A godant i’m herbyn yn gad:
13Yn fuan y llwyr ddiffygiaswn
Pe ’n llwyr na chredaswn i’m Duw,
Y gwelwn ei ddawn a’i drugaredd
O’r diwedd yn nhir y rhai byw.
14O disgwyl wrth Dduw mewn amynedd,
Fe nertha dy lesgedd â’i law;
Wrth Dduw, meddaf, O dal i ddisgwyl,
Cyn hir, wrth ei ddisgwyl, fe ddaw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.