1Molwch yr Arglwydd, fawr a mân,
A newydd gân rhowch iddo;
Yn Sïon bur y seinio ’r gân,
A Salem lân a’i clywo.
2Plant Israel yn eu Crëwr cu
Fo ’n llawenychu ’n ddibrin;
A gorfoledded byth yn llon
Plant Sïon yn eu Brenhin.
3Mewn sanctaidd ddawns a thympan dônt,
I’w Enw rhônt ogoniant;
Datganant â melusder swyn
Y delyn fwyn ei foliant.
4Oblegid hoffa ’r Arglwydd gwâr
Ei bobl a’i hygar weision;
Ac ar y rhai yn llednais sydd,
Ei ras a rydd yn goron.
5Poed orfoleddus ei holl Saint
Mewn bri a braint gogoniant;
Ar eu gwelyau mewn per dôn
I’w Harglwydd tirion canant.
6Bydded ardderchog foliant Naf
Yn uchaf ar eu tafod;
Ac yn eu dwylaw bo mewn grym
Y cleddyf llym yn barod:
7I wneuthur dïal ar y tir,
A chospi ’r bobloedd gedyrn;
8I rwymo eu pennaethiaid gau
Mewn cryf gadwynau heiyrn.
9Yn llyfrau barn y nef fel hyn
I’w herbyn ysgrifenwyd:
Yr ardderchowgrwydd hwn a’r fraint
I’w holl wir saint a roddwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.