Lyfr y Psalmau 25 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1F’ enaid eiddil a ddyrchafaf

Attat, Arglwydd Dduw di‐lyth;

2Duw fy hyder wyt a’m gobaith,

Oh na ’m gwaradwydder byth!

Nac ymffrostied fy ngelynion

Yn fy nghwyn a’m tristyd i;

3Na foed gwarth i neb, na siommiant,

Sydd yn disgwyl wrthyt Ti:

Gwarth fo rhan y sawl heb achos

Sydd yn torri ’th ddeddfau gwiw.

4Par im’ wybod am dy lwybrau

Dysg im’ droedio ’th ffyrdd, fy Nuw:

5Dysg a thywys f’ enaid gwibiog

Yngwirionedd gair dy ffydd;

Duw fy iechyd wyt, ac wrthyt

Disgwyl wnaf ar hyd y dydd.

6Cofia ’th hen dosturi, Arglwydd,

Cofia drugareddau ’th rad;

Maent eriôed o fewn dy fynwes,

Nac anghofia ’th gariad mad:

7O na chofia feiau ’m hie’ngctid,

Llwyr ddilea ’m beiau ’n awr;

Meddwl yn dy ras am danaf

Er daioni, Arglwydd mawr.

YR AIL RAN

8Yr Arglwydd sy ddaionus iawn,

A’i lwybrau ’n uniawn odiaeth;

Am hyn y dysg i’r anwir rai

Ffordd ddifai ei wasanaeth.

9I’r llariaidd mwyn fe ddysg ei farn,

A gwna hwy ’n gadarn ynddi;

A’i ffordd yr isel dysgu wnant,

Hwynt‐hwy nid ant o honi.

10Holl ffyrdd yr Ion sy ras a hedd

A phur wirionedd cywir

I’r sawl a geidw ’i ammod clau

A’i dystiolaethau geirwir.

11Er mwyn dy Enw, Arglwydd Rhi,

O maddeu Di f’ anwiredd;

Ysgeler yw fy mai a thrwm,

A mawr yw swm fy nghamwedd.

Y DRYDEDD RAN

12Pwy ydyw ’r gwr o fewn y tir

Sy ’n ffyddlon ofni ’r Arglwydd?

I hwn Efe a ddysg yn glau

Ei ddewis lwybrau hylwydd.

13Ei enaid fydd yn esmwyth iawn

Mewn lletty llawn daioni;

A’i had a gânt yn rhandir bras,

Y ddaear las a’r eiddi.

14Cyfrinach Ion o gyfiawn hawl

Sy gyd â’r sawl a’i hofnant;

Drwy addysg ei gyfammod Ef

Doethineb nef a ddysgant.

15Ar Dduw yn wastad nos a dydd

Fy llygaid sydd yn syllu;

Efe a rydd yn rhydd fy nhraed

O’r rhwyd a wnaed i’w maglu.

Y BEDWAREDD RAN

16Tro attaf, Arglwydd, trugarhâ,

I’m henaid gwna drugaredd;

Amddifad wyf, a thlawd a gwael,

Mewn angen cael amgeledd.

17Helaethwyd, Arglwydd, yn fy mron

Ofidiau ’m calon, gweli;

Duw, ysgafnhâ fy nghalon drom,

A dwg fi o’m caledi.

18Edrych, a gwel fy nghwyn a’m cam,

Fy helbul a’m cystuddiau;

A maddeu fy mhechodau oll,

Maddeu fy holl bechodau.

19Gwel fy ngelynion, Arglwydd cu,

Yn ddirfawr lu amlhasant;

Ac â chasineb traws a cham

Hwy ’n greulon a’m casasant.

20Achub a chadw f’ enaid, Ner,

Mewn hyder arnat gelwais;

Byth bythoedd na ’m gwarthrudder i,

Ar d’ eiriau Di ’r hyderais.

21Cadwed uniondeb perffaith fi,

Can’s wrthyt Ti ’rwy ’n disgwyl:

22Duw, gwared Israel o’i holl ddrwg,

A’i enaid dwg o’i anhwyl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help