1Ynghynnulleidfa ’r grymmus fry
Drwy fraint ac urdd y saif Duw ne’;
Ac ynghymmanfa ’r duwiau mân
Y dadleu ac y barn Efe.
2Paham y bernwch farn ar gam,
Gan bleidio ’r anwir yn ei fai?
3-4Diffynwch yr amddifad tlawd,
Y truain gwaelion, reidus rai.
Gwnewch i’r cystuddiol uniawn farn,
Ystyriwch a gwrandêwch eu llais:
Y rheidus gwan a’r truan tlawd,
Achubwch hwynt o ddwylaw trais.
5Ni wyddant, ni ddeallant chwaith;
Eu ffyrdd sy dywyll îs y ne’; —
Sylfeini cedyrn daear gron
Symmudwyd ymaith oll o’u lle.
6Dywedais, “Duwiau ydych chwi,
A meibion oll i’r Arglwydd mawr;
7Fel dynion, fel t’wysogion byd,
Y syrthiwch chwi er hyn i lawr.”
8Cyfod dy Hun i farn yn awr,
A barna ’r ddaear, Arglwydd Cun,
Nes delo ’r byd a’i bobloedd oll
Yn eiddo byth i Ti dy Hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.