Lyfr y Psalmau 45 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Traetha fy nghalon lawn beth da,

A’m genau ffraeth ei ddatgan wna,

Sef cân o glod i’m Brenhin gwiw,

Cerdd lafar ei Brïodas lân;

Fy nhafod wrth emynu ’r gân,

Pin ysgrifenydd cyflym yw.

YR AIL RAN

2Mil teccach wyt, fy Mrenhin mawr,

Na meibion dynion daear lawr;

Llawn gras yw dy wefusau pêr:

O herwydd hyn ennillaist Ti

Fendithion dwyfol fwy na rhi’

Byth yn dragywydd gan Dduw Ner.

3Weithian i’r gad, O Gadarn Gun,

Gwregysa ’th gleddyf ar dy glun

Mewn harddwch a gogoniant llawn;

4Marchoga ’n ddewr i faes y gad,

A llwydda ’n erbyn trais a brad,

Ym mhlaid y gwir, y mwyn, a’r iawn.

Dy rymmus fraich a’th ddehau law

Dysgant it’ bethau llawn o fraw;

5O danat syrth y bobl i lawr;

Dy saethau llymion glynu wnant,

I galon y gelynion ant,

D’ elynion Di, fy Mrenhin mawr.

6Gorsedd dy deyrnas gref ddi‐lyth

Uwch pawb a bery ’n gadarn byth,

Ni syfl o’i lle, nid ysgog hi;

Ac yn dy law, fy Arglwydd Dduw,

Teyrn‐wialen hardd uniondeb yw

Teyrn‐wialen dy frenhiniaeth Di.

7Ceraist gyfiawnder, ac mewn gwg

A llid edrychaist ar y drwg;

Am hynny y’th enneiniodd Duw,

Sef dy Dduw Di, âg olew ’r nef,

Pur olew ei lawenydd Ef,

Yn fwy na ’th holl gyfeillion gwiw.

8Arogledd myrr y dwyrain dir,

Y cassia drud, a’r aloes îr,

Sydd ar dy wisgoedd hardd eu bri:

O’r ifori balasau draw

Y seinia moliant it’ gerllaw,

I lawenhâu dy galon Di.

9Merched brenhinoedd gwych eu gwedd

Amgylchent dy frenhinol sedd,

Mewn perlau oll a gemmau ’n llon;

Yn hardd gan dlysau o aur coeth

O ddrud fwngloddiau Ophir boeth

Safai ’r Frenhines ger dy fron.

Y DRYDEDD RAN

10Gwrandaw a gwel, urddasol Fun,

Anghofia ’th bobl a’th dad dy hun,

11A’r brenhin hoffa ’th degwch mawr.

Efe yw ’th Ior a’th Arglwydd Di,

Dy Ben, dy Brïod yw, a’th Ri,

Ymostwng dithau iddo i lawr.

12Merch Tyrus dwg it’ anrheg ddrud,

A chyfoethogion bobl y byd

Ymbiliant yno ger dy fron.

13Mor hardd o fewn, mor lân yn awr,

Yw breiniol ferch y Brenhin mawr!

Gemwaith o aur yw gwisgoedd hon:

14Mewn brodiog wisgoedd at ei Rhi

Ei chyfeillesau dygant hi,

Ei chwmni a’i morwynawl gôr;

15Ac mewn peroriaeth lawen lef

Fel sain gorfoledd nef y nef

Y deuant oll i lys yr Ior.

16Dy blant yn lle dy dadau ddaw

Yn dywysogion îs dy law,

Hwynt‐hwy ’n rhaglawiaid, Tithau ’n Ben.

17Minnau o oes i oes yn glau

A baraf gofio ’r Enw tau,

A’r byd a ’th fawl dros byth. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help