1Molwch yr Arglwydd, molwch Dduw,
Daionus yw ei Fawredd;
Ei gariad Ef a’i ras di‐lyth
A bery byth heb ddiwedd.
2Pwy byth all draethu nerth ein Duw?
Mor ddirfawr yw ei allu!
Pwy all, trwy bedwar ban y byd,
Ei fawl i gyd fynegu?
3Gwỳn fyd a gadwo farn yn llawn,
A wnelo ’n iawn bob amser. —
4Cofia fi, Arglwydd, yn dy ras,
Ymwêl â’th was mewn blinder.
Yn ol dy arfer i’r bobl dau,
Dod immi ’n glau dy iechyd;
5Felly llawenydd dy bobl Di
Fydd eiddof fi mewn adfyd.
Caf weled felly gennyt Ti
Ddaioni ’th ddewisolion;
Ac felly gorfoleddu caf
Gyd â’th ffyddlonaf weision.
YR AIL RAN6Gwir bechaduriaid, yn ddi‐gêl,
Ym, Arglwydd, fel ein tadau;
Ac anwireddus, O Dduw Rhi,
Yn d’ erbyn Di fu ’n beiau.
7Yngwlâd yr Aipht dy ddoniau Di
A’th wyrthiau ni ddeallent;
Yn wrthryfelgar iawn a chas,
Haelioni ’th ras anghofient.
Eu traha trwch yn erbyn Ior
Wrth y coch fôr a gododd;
8Etto er mwyn ei enw gwiw
A’i nerth, yn fyw fe ’u cadwodd.
9Ceryddodd rym y cefnfor coch
Er maint ei roch a’i ruo:
Tywysodd hwynt fel trwy dir sych,
Aethant yn droedsych drwyddo.
10O law eu cas a’u gelyn llym
Efe â’i rym a’u cadwodd;
11A’u holl gaseion, ar air Ior,
Rhyferthwy ’r môr a’u boddodd.
12Yna credasant air Duw nef,
Ei foliant Ef canasant;
13Ond ebrwydd ei gynghorion clau
A’i wyrthiau anghofiasant.
14Oedd fawr eu blys mewn anial wlad
Gan demtio Tad daioni;
15Rhoes eu dymuniad wrth eu bodd, —
I’w henaid gyrrodd gulni.
16Digiasant Moses fwyn yn ffol
Ynghanol eu gwersyllfa;
Cynfigennasant yn eu chwant
Wrth Aaron, Sant Jehofah.
17Agorai ’r ddaear ddig ei safn
Yn erchyll gafn i’w llyngcu;
A llu Abiram, (clywch eu cri!)
A Dathan ynddi ’n trengu.
18O fewn eu cynnulleidfa ’n chwai
Ennynai tân distrywiol;
A’r fflam a losgodd, am eu bai,
Yn ulw y rhai annuwiol.
19Yn Horeb gwnaethant lo yn dduw,
Crymmasant i’w addoli;
20Tebygent urddas eu Duw hael
I eidion gwael yn pori.
21-22Anghofient Dduw eu Ceidwad clau,
Tir Ham, a’r gwyrthiau mwya’;
Anghofient ryfedd waith yr Ior
Yn ymyl môr Arabia.
23Dywedodd y distrywiai hwy, —
Moses i’r adwy rhedodd;
Rhag iddo ’u lladd â’i lidiog rym,
Ei gleddyf llym attaliodd.
24Dirmygent y ddymunol wlad,
Heb gredu eu Tad a’i rhoddodd;
25Grwgnachent yn eu pebyll draw,
Heb wrandaw ei ymadrodd.
26Yna fe gododd Duw ei law
I’w cwympaw yn ’r anialdir,
27I wasgar yn y tir eu had
Ym mhell o wlad eu brodir.
28Ac ymgyssylltu wnaent yn glau
A Pheor gau ’r Moabiaid;
Bwyttasant ebyrth cas di‐fael
Yr eilun gwael dïenaid.
29Fel hyn y digient fyth yr Ion
A’u gwael ddych’mygion ynfyd;
Am hyn i’w mysg mewn gerwin fodd
Y rhuthrodd pla dychrynllyd.
30Safai Phinees, a barnai ’n dda,
Ar hynny ’r pla attaliwyd;
31Hyn iddo yn gyfiawnder byth
Gan Dduw di‐lyth cyfrifwyd.
32Llidiasant hefyd Ion ar g’oedd
Wrth ddyfroedd cynnen Cades;
A chynhyrfasant yno ’i wg,
Yr hyn fu ’n ddrwg i Moses.
33Cythruddo wnaent ei yspryd mwyn
I draethu anfwyn eiriau;
Ac felly ar gam, (ond nid o’i fodd,)
Dywedodd â’i wefusau.
34Ni ddistrywiasant bobl y wlad,
Ar air Duw mad i’w llwythau;
35Dewisent yn eu plith gael byw,
Dysgasant fyw fel hwythau.
36Addoli wnaent eu duwiau gau,
Y rhai fu ’n faglau iddynt;
37Eu merched hardd, a’u meibion glân,
I’r Fall trwy dân aberthynt.
38Tir Duw halogwyd dan eu traed
A gwaed eu plant diniwaid;
Aberthent, llosgent hwynt yn rhan
I ddelwau Canaan ddiriaid.
39Fel hyn halogwyd hwy bob un
A’u gwaith eu hun fel puttain;
A dilynasant eu di‐fael
Ddychymmyg gwael eu hunain.
40Am hyn ennynodd digter Duw
I gospi ’r cyfryw bechod;
Ei etifeddiaeth rhoes Duw Cun,
A’i bobl ei Hun, yn ddifrod.
41I’r bobloedd rhoes eu Duw hwy ’n ffrom,
A’u hiau fu ’n drom arnaddynt;
42I’w cas elynion rhoes hwy ’n glau,
Plygodd eu gwarrau danynt.
43Gwaredodd Ef hwy lawer gwaith,
Ond hwy â’u gwaith a’i digient;
Fflangellau eu pechodau ’n awr
Yn ddirfawr a’u gwanhychent.
44Pan oeddynt yn eu cyni cas,
Yr Ion o’i ras edrychodd;
Gwrandawai ’n ebrwydd ar eu cais,
A gwaedd eu llais a glywodd.
45Cofiodd ei ammod gynt â’i was,
A thoddodd gras ei galon;
46Rhoes iddynt gaffael ffafr yn glau
Gan bawb a’u dygai ’n gaethion.
Y DRYDEDD RAN47Achub, a chynnull ni, ein Duw,
O blith y didduw bobloedd;
I foli byth dy Enw glân
A hyfryd gân byth bythoedd.
48A dyma fydd ein cân ddi‐baid,
“Bendigaid fo Jehofah;”
Attebed pawb trwy ’r byd a’r nen,
“Amen a Haleluiah.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.