Lyfr y Psalmau 48 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Mawr a moliannus yw Duw Ion,

Yn Sïon mae ’n Breswylydd;

Yn ninas hardd ein Harglwydd glân,

Sef yn ei burlan fynydd.

2Gem a llawenydd daear gron

Yw mynydd Sïon hawddgar;

Mae ar ei deg ogleddol fin

Dref Brenhin nef a daear.

3Yn llysoedd hon adweinir Ef

Yn noddfa gref i’r eiddo: —

4I’w erbyn daeth brenhinoedd byd,

Ond caed hwy ’nghyd yn syrthio.

5Pan welodd ei elynion hyn,

Rhyfeddu ’n syn a wnaethant;

Eu calon oedd o fraw yn llawn,

A phrysur iawn y ffoisant.

6Daeth dychryn arnynt, ofn a chur,

A phoen fel gwewyr esgor. —

7Tydi â’r gwynt dwyreiniol tau

A ddrylli longau ’r dyfnfor.

YR AIL RAN

8Fel hyn y gwelsom yn y fan,

A glywsom gan laweroedd,

Yn ninas lân ein Harglwydd byw,

Yn ninas Duw y lluoedd.

Duw a’i sicrhâ hi byth yn gref;

Yn hon ein tref y trigwn:

9Ynghanol dy gynteddau, Ner,

Am dy raslonder soniwn.

10Fel y mae d’ Enw, felly, Naf,

Mae ’th glod hyd eithaf gwledydd:

O bur gyfiawnder llawn yw ’th law,

Dy bur ddeheulaw, beunydd.

Y DRYDEDD RAN

11Llawen fo Sïon, mynydd Ion,

Bo ’n llon forwynion Salem;

O herwydd dy gyfiawnder llawn

Poed uchel iawn eu hanthem.

12Amgylchwch Sïon, ewch o’i chylch,

O’i hamgylch ogylch rhodiwch;

Ystyriwch hardd ragfuriau hon,

A’i thyrau cryfion rhifwch.

13Ar lysoedd hon ym mlaen ac ol

A llygaid manol tremiwch;

A’i threfn a’i thegwch, er ei chlod,

I’r oes sy ’n d’od, mynegwch.

14Y Duw hwn byth, ein tadol Ri,

Yw ’n Harglwydd ni yn ddilys;

Ac yn ei law ofalus gu

Hyd angau du fe ’n tywys.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help