Lyfr y Psalmau 65 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1I Ti, O Dduw, y perthyn mawl

Yn sanctaidd Sïon fry;

Telir i Ti ’r adduned lawn

Ynghyntedd glân dy Dŷ.

2Tydi o’th ras o’r nefoedd wen

Sy ’n gwrando gweddi ’r tlawd;

Ac at dy nefol orsedd hael

Y daw pob dynol gnawd.

3Fy mhechod yn fy nghuro sydd,

A threch na’m henaid yw;

Tydi er hyn a lwyr lanhêi

Ein camwedd, Arglwydd Dduw.

YR AIL RAN

4O gwyn ei fyd y dedwydd ddyn

’Rwyt Ti ’n ei ddewis it’ dy Hun,

I’w nesu attat yn dy Dŷ:

Dy Gyssegr yw ei breswyl ef,

Cyflawn a fydd o fendith nef,

Daioni ’th sanctaidd Gafell fry.

5Trwy bethau llawn o fraw ’r wyt Ti

Yn gyfiawn yn ein hatteb ni,

Er iachawdwriaeth, Arglwydd Ior:

Gobeithio ’n llawen yn dy ras

Wna cyrrau pellaf daear las,

A’r rhai sydd ar eithafion môr.

Y DRYDEDD RAN

6Duw a sicrhâ ’r mynyddoedd mawr

Drwy rym ei ddirfawr gryfder;

Anorfod ydyw nerth ein Duw,

Ei wregys yw grymmusder.

7Gostega Duw y môr a’i dwrf,

Cynddaredd twrf ei donnau;

Gostega ’i derfysg flin a’i floedd,

A thwrf y bobloedd hwythau.

8Ofnir d’ arwyddion Di fel hyn

Hyd eithaf terfyn daear:

Gwnei derfyn bore a phrydnhawn

Yn llawen iawn a llafar.

Y BEDWAREDD RAN

9Ymweled, Arglwydd, yr wyt Ti

A’n daear ni ’n rasusol;

Dyfrhâu yr wyt ei monwes wyw

Ag afon Duw ’n fendithiol.

Mae ’th afon lawn o ddwfr â’i rhin

Yn cyfoethogi ’n daear;

Yr wyt âg ŷd, mewn grasol drefn,

Yn llenwi cefn a thalar.

10Dyfrhâu yr ydwyt rychau hon,

A mwydo ’i sychion gefnau;

Dïodi hi â’th gawod flith,

Rhoi fendith ar ei chnydau.

11Coroni ’r wyt y flwyddyn gron

A’th hael fendithion beunydd;

Difera ’th lwybrau ’r gwlaw a’r gwlith

Yn frasder blith i’r meusydd.

12Gwna ’th fendith y porfeydd yn fras,

Porfeydd y cras anialwch;

Dilledir gleision fryniau ’r fro

A gwregys o hyfrydwch.

13Gwisgir â defaid ddol a bryn,

Pob pant a dyffryn hwythau

Cuddir âg ŷd, a bloeddio wnant,

A chanant am eu ffrwythau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help