Lyfr y Psalmau 105 - Welsh Metrical Psalms by Morris Williams 1850

1Clodforwch bawb yr Ion yn rhwydd,

Ar Enw’r Arglwydd gelwch;

Ac i holl bobl y byd ar g’oedd

Ei fawr weithredoedd traethwch.

2Datgenwch gân i Arglwydd nef,

Canmolwch Ef a’i wyrthiau;

Ac ymddiddenwch am yr Ion

A’i fawrion ryfeddodau.

3O gorfoleddwch yn eich cân

Yn Enw glân yr Arglwydd;

Llawen fo calon pawb a’u llef

A’i ceisiant Ef yn ebrwydd.

4Ceisiwch yr Arglwydd Ior a’i nerth,

A gwedd ei brydferth wyneb;

5Cofiwch ei ryfedd waith di‐fai,

Ei wyrthiau a’i uniondeb.

6Chwychwi had Abraham ei was,

Cerdd addas cenwch iddo;

Datgenwch byth ei glod a’i fawl,

Chwi feibion ethawl Iago.

7Efe yw ’n Harglwydd Dduw o hyd,

Drwy ’r hollfyd aeth ei farnau;

8Cofiodd ei air i ddynol hil

Hyd fil o genedlaethau.

9Sef gair ei lw i Abra’m ac

I Isaac gynt a dyngodd;

10I Jacob ac i Israel byth

Y ddeddf ddi‐lyth a roddodd.

11“I ti,” medd Duw, “y rhôf yn rhad

Dir Canaan, gwlad ehelaeth;

Cei berchennogi rhandir hon

Yn raslon etifeddiaeth.”

12Pan oeddynt ond ychydig ri’

Estronol ynddi ’n trigo,

13Pan ydoedd Abraham a’i had

O wlad i wlad yn crwydro.

14Ond ni oddefodd Naf er hyn

I undyn eu gorthrymmu;

Oblegid ei ddewisol rai

Brenhinoedd gwnai geryddu.

15“A’m pobl enneiniog,” medd Duw Ion,

“Yn drawsion na chyffyrddwch;

A’m glân brophwydi genau gwir

Sydd yn eich tir, na ddrygwch.”

YR AIL RAN

16Galwodd am newyn ar y wlad

A thost brinhâd i’w difa;

Felly distrywiodd eu holl faeth,

A holl gynhaliaeth bara.

17I’r Aipht o’u blaen anfonodd wr

Yn gynnorthwywr addas,

Joseph ei was, anwylyd nef, —

A gwerthwyd ef yn gaethwas.

18Rhoi haiarn i’w gystuddio wnaed,

A chloi ei draed diniwaid;

Mewn gefyn fe ’i rhwymasant hwy,

Ai ’r haiarn drwy ei enaid.

19Fe ’i cadwyd yn y carchar caeth

Hyd nes daeth gair yr Arglwydd;

Profwyd ei burdeb gan air Ior, —

Fe ’i tynnwyd o’r gwaradwydd.

20Yna ’r brenhin o’r carchar caeth

Yn rhydd a ddaeth i’w roddi;

Ei archiad ef, yn amser Ior,

A’i tynnodd o’r cadwyni.

21Ei eiddo a’i dŷ rhoes dan ei law,

I rwymaw ei foneddwŷr,

22I ddysgu pur ddoethineb Duw

Yn addysg i’w seneddwŷr.

23Aeth Israel hefyd i wlad Ham,

Gwlad trais a cham, i ’mdeithio;

Do, fe aeth Jacob hen ei dad

I’r Aiphtaidd wlad i drigo.

24Gwnaeth Ion i’w bobl gynnyddu ’n awr

Yn ddirfawr mewn gwlad estron;

A gwnaeth eu llïaws wrth amlhâu,

Yn gryfach na ’u gelynion.

25Fe droes ar ŵyr eu calon gau

I lwyr gasâu ei weision;

Gorthrymmu wnaethant bobl Duw Naf

Ag eithaf eu dichellion.

26Moses ei was anfonodd Ion,

Ac Aaron ei ddewisol;

27Dangosent yno ’i wyrthiau Ef, —

Ei fraich oedd gref a nerthol.

28Anfonodd gaddug dros y tir,

Ac arno ’n hir arhosodd;

Ar lais Duw Naf gwrandawai ’r nos,

A dunos a ymdaenodd.

29Eu dwfr gwnai ’n gochwaed yn eu mysg,

Bu feirw pysg eu hafon;

30Eu tir a heigiodd lyffaint hyll

Yn ’stefyll eu t’wysogion.

31Dywedai ’r gair, a daeth i’w mysg

Bla trwm o gymmysg wybed;

A llanwai llau eu bro ’mhob man,

A phob rhyw aflan bryfed.

32Eu gwlaw a wnaeth yr Ion â’i air

Yn gawod gesair caled;

Ac yn lle gwlaw o’r awyr lân,

Daeth fflammau tân i wared.

33Eu gwinwŷdd a’u ffigyswŷdd îr

A choed eu tir a ddrylliodd;

34Daeth dirif lindys yn y man,

A’r locust, pan orch’mynodd.

35Bwyttasant yr holl laswellt mwyth,

Difasant ffrwyth eu meusydd.

36Eu cynblant oll a laddodd Ion,

Sef blaenion nerth eu cynnydd.

37Allan y dygodd hwynt o’r fro

Yn llwythog o drysorau;

Aent bawb o honi ’n fawr a mân

Heb egwan yn eu llwythau.

38Llawenydd oedd trwy ’r Aiphtaidd fro

Pan aeth plant Iago allan;

Syrthiasai arswyd pobl yr Ion

Ar holl drigolion Soan.

Y DRYDEDD RAN

39Taenodd liw dydd gwmmwl uwch ben

Rhag gwres yr haulwen tanbaid;

A thân liw nos trwy ’r teithiad hir,

Yn llewyrch clir a channaid.

40Dug soflieir hefyd gyd â hyn

Pan wnaethant ofyn iddo;

A bara o drysordŷ ’r nef

Diwallodd Ef yr eiddo.

41Holltodd y gallestr graig â’i rym,

A’r dwfr yn gyflym ffrydiodd;

I’w dilyn hwynt yn rhedlif glas

Drwy ’r anial cras y rhedodd.

42Felly ’r addawsai gynt i’w was,

A gair ei ras a gofiodd;

43A’i bobl ei Hun, dan seinio cân,

I randir Canaan dygodd.

44Rhoes dir y bobl i’w anwyl rai,

Eu llafur a’u meddiannau;

45Fel y cynhalient gyfraith Ion,

Ei air a’i gyfion ddeddfau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help