1Arnat Ti mae gobaith f’ enaid,
Arglwydd, na’m gwarthrudder byth;
2Ynghyfiawnder dy drugaredd,
Gwared fi, fy Nuw di‐lyth;
Gostwng attaf,
Ior, dy glust, ac achub fi.
3Duw, bydd immi ’n drigfa gadarn,
Craig a chartref nos a dydd;
Rhoddaist Ti d’ orchymyn grasol
I roi f’ enaid caeth yn rhydd;
Ti yw’m castell,
Ti yw’m hamddiffynfa byth.
4Gwared fi o law ’r annuwiol,
Rhag yr anwir traws a’i frad;
5Ti wyt unig obaith f’ enaid,
F’ Arglwydd wyt, fy Nuw, fy Nhad;
Mae f’ ymddiried
Ynot Ti er bore f’ oes.
YR AIL RAN6Wrthyt Ti yr wy’n ymgynnal
Er yn faban yn y bru;
Ti o rwymau ’r groth esgorol
A’m rhyddheaist, Arglwydd cu;
Mawl a seiniaf
Byth heb ddiwedd am dy ras.
7Syndod ydwyf i laweroedd,
Ond Tydi yw ’m noddfa gref;
8Llawn yw ’m genau o’th glodforedd,
Molaf Di â llafar lef;
Bydd d’ ogoniant
Immi byth yn destun cân.
9O na fwrw mo’nof ymaith
Ym mlynyddoedd henaint gwan;
Ond pan fyddo ’m nerth yn pallu,
Bydd, attolwg, immi ’n rhan;
Duw, na wrthod
Mo’nof ar fachludiad f’ oes.
Y DRYDEDD RAN10Clyw’m caseion yn f’ athrodi,
Gwel hwy ’n ymgynghori ’nghyd;
Disgwyl maent am faglu f’ enaid,
Gwyliant am fy ngwaed o hyd.
11“Ei Dduw,” meddant, “a’i gwrthododd,
Ni fyn wrando ar ei lef,
Nid oes iddo mwy Waredydd,
De’wch, erlidiwch, deliwch ef.”
12Arglwydd, na fydd bell oddi wrthyf,
Brysia, Ner, a gwared fi;
13Mewn gwaradwydd y difether
Gwrthwynebwŷr f’ enaid i;
Gwarth a gwatwar fo ’n gorchuddio
Pawb a geisiant ddrwg i mi;
14Minnau ’n wastad a obeithiaf,
Mwyfwy y’th foliannaf Di.
15Traetha ’m genau dy gyfiawnder,
Traethaf beunydd ras fy Nuw:
Nis gwn rif na mesur arno,
Dwyfol, anfesurol yw.
16Help fy Nuw a nertha ’m camrau,
Yn ei nerth ym mlaen yr af;
Traethaf byth gyfiawnder f’ Arglwydd,
Hwnnw ’n unig a goffâf.
17O ieuengctyd bore ’m heinioes
Yr hyfforddiaist Ti dy was;
Hyd yn hyn mynegais innau
Ryfeddodau gair dy ras:
18Hen a phenllwyd weithian ydwyf,
O fy Nuw, na thro fi draw,
Hyd nes traethwy ’n awr dy allu,
Grym dy nerth i’r oes a ddaw.
Y BEDWAREDD RAN19Uchel, Arglwydd, yw ’th gyfiawnder,
Mawr a dwyfol yw dy waith;
Nid oes neb yn ail i’th Fawredd,
Nid oes neb yn debyg chwaith.
20Er y gwnaethost immi weled
Mynych ing a chystudd mawr,
Codi fi mewn bywyd eilchwyl
O orddyfnder daear lawr.
21Mwy llïosog fawredd etto
Im’ o’th nefol ras a ddaw;
Yn niddanwch llawn dy gariad
Y’m cysurir ar bob llaw:
22Minnau ar y nabl a’th folaf,
D’ air a folaf, Arglwydd Ner;
O Sancteiddiol Frenhin Israel,
Canaf it’ â’r delyn ber.
23Pan y canwyf dy glodforedd,
Llawen fydd fy ngenau ffraeth;
Llon a llawen fydd fy enaid
A waredaist pan oedd gaeth.
24Dy gyfiawnder a ddatganaf
Nos a dydd heb dewi mwy;
Canys pawb a geisiai ’m drygu
Gwarth a gwawd a’u cuddiodd hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.