1“Nid oes un Duw,” medd tyb y ffol;
Mae hynny ’n ol ei frynti;
Llygredd ffieiddwaith yw eu moes,
Nid oes a wnel ddaioni.
2O’r nef i lawr edrychodd Ion
Ar feibion dynion daear,
I wel’d oedd neb yn ceisio Duw,
Na neb yn byw ’n ddeallgar.
3Ciliasai pawb; oedd frwnt eu gwedd
Mewn llygredd a budreddi.
Yn y byd crwn nid oes un da,
Nac un a wna ddaioni.
4Ac oni ŵyr gweithredwŷr drwg,
Y rhai mewn gwg a ddifant
Fy mhobl, fel bwytta bara, ’n fyw,
Ond ar eu Duw ni ’s galwant?
5Yno gan fraw ofnasant hwy,
Aeth dychryn drwy eu hyspryd;
Ac wele, nid oedd ofn gerllaw
I beri braw mor ddybryd.
Y rhai fu ’n gwarchae d’ enaid gwyw,
Gwasgarodd Duw eu hesgyrn;
Ac am i Dduw ddirmygu eu brad,
Ti wawdiaist gad eu cedyrn.
YR AIL RAN6Pwy, pwy a weryd Israel gaeth,
Pwy rydd achubiaeth iddo,
O fynydd Sïon uwch y ser,
Lle mae Duw Ner yn trigo?
Pan ddychwel Duw gaethiwed llym
Ei bobl â grym ei allu,
Mawr fydd llawenydd Jacob wiw,
Bydd Israel Duw ’n crechwennu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.