1Pan gyntaf y dychwelodd Ion
Gaethiwed Sïon adref,
Fel breuddwyd oedd y fendith fawr,
Yr ŷm yn awr yn addef.
2Pan welsom mai nid breuddwyd oedd,
Rhôi ’n genau floedd o chwerthin;
A’n tafod ffraeth mewn rhyddid cu
Dechreuodd ganu ’n ddibrin.
“Gwnaeth Ion beth mawr i’r rhai’n i gyd,”
Medd pobloedd byd pan glywsant; —
3Do ’n wir, fe wnaeth; a’n tafod clau
Am hyn, a’n genau canant.
4O dychwel, Ion, ein caethder hir,
Fel ffrydiau tir y dehau: —
5Y rhai sy ’n hau mewn dagrau ’n lli,
Cânt fedi mewn caniadau.
6Yr hwn sy ’n myn’d dan wylo ’n awr,
Gan ddwyn had gwerthfawr ganddo,
A ddaw yn orfoleddus iawn,
A’i ’sgubau llawn caiff gludo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.