1-2Ei sail ar sanctaidd Sïon fryn
A saif yn gadarn, — byth ni chryn:
Mil henffych itti, Sïon wiw!
Dy byrth, dy anwyl byrth bob un
Na phebyll Jacob lân ei hun
Sy ganwaith hoffach gan ein Duw.
3Gogoned son sy am danat ti,
Dy harddwch glwys a’th freiniol fri,
Caersalem, dinas fawr yr Ion!
4Rahab a Babilon, fy Naf,
Wrth fy nghydnabod cofio wnaf,
A chlyw ’r Philistiaid hwythau ’r son.
Wele, daw ’r Tyriaid yma ’n llu,
A Moriaid gwlad Ethiopia ddu,
Yn anedigion Salem bur:
5Genir hwynt yno i Dduw ’n blant,
Yn ddinasyddion Sïon sant;
Mae ’r uchel Dduw o’i chylch yn fur.
6Pan rifo ’r Ior ei bobl ei Hun,
Ceir enwau ’r rhai’n ar lawr bob un,
Mai plant Caersalem ydynt hwy;
7A chlywir per gantorion nef
Yn pyngcio ’n llawen iawn eu llef,
“Mae ’m holl ffynhonnau ynot Ti.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.