Psalmau 149 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. CXLIX. Englyn Unodl Union.

1Cenwch ir Arglwydh caniad — o newydh,

Mewn awel a gariad:

Bid ei fawl rheidiawl yn rhad

Y’mysg ei saint gymmysgiad.

2Bid lawen Israel, byd lywied — Brynwr,

O’u Brenhin gogoned:

Meibion Seion, gysson gêd,

O lwydhiant, gorfoledhed.

3Dawnsiant a molant Iôr mau — yn union,

Mwyn annerch, ar dannau;

Ar dympan gwelan’ yn gwau,

A thelyn berffaith olau.

4Fe hoffodh o’i fodh, ac fe wydhir, — bawb

O’i bobl y sydh gywir:

Truanwedh gogonedhir

A glan iechyd hyfryd, hir.

5Gorfoledhed, gêd ergydiau, — pob sant,

Ogoniant eu genau:

Canant a fedrant yn fau,

Gwiw lawen, yw gwelyau.

6Eu gweithred bydhed yn bwys — o ’r gorau,

I’w genau yn gynnwys:

Cledhyf daufiniog gloywdhwys

Fydh yno yw dwylo dwys;

7I beri, gwedi gadoedh, — a dywed,

Dïal ar ei bobloedh;

Ac i dhofi, cospi c’oedh,

Accw ’n odli, ’r cenhedloedh:

8I rwymo, yno awn ninnau, — yw tywys,

Teyrn, mewn cadwynau;

Pendefigion breisgion, brau,

O fewn heiyrn efynnau.

9Eu barn sydh gadarn yw gŵydh — a fynnir,

’Scrifenwyd eu haflwydh:

Hyn fydh braint eu saint yw swydh,

Wych awgrym ardherchawgrwydh.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help