Psalmau 64 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXIIII Psalm. Ynglyn milwr oferfesur.

1Gwnn rhag answyn hir gwyno

Ar gelyn oer dremyn dro

Gwir vnduw fy llef gwrando.

2Rag kyngor anysgorol

Kadw fi kudh rwy ’n brudh heb rol

Rag kynhenwyr kynhwynol.

3Hogant fal kledh oe heigion

I tafodau saethau son

A siarad geiriau surion.

4Kyflym a ffraeth y saethant

Oer-boen sur yn erbyn sant

Yn y dyfnedh nid ofnant.

5Brwydr a maglau bwriadant

Drwg‐weithredion bloesgion blant

Yw medhwl pwy wyl? (medhant.)

6Gweithiant chwiliant a chilwg

Enwiredh drwy wagedh drwg

Dichellion hwyrion hir‐wg.

7Ond Duw y ffraeth a saetha

Yn ei plith y rhann y plâ

Disymwth Duw sy yma.

8I tafod arfod wirfoll

Dechrynnant a welant oll

Ofergerdh i kyfyrgoll.

9Gwyr a wyl heb gweryloedh

Devall i air i dull oedh

A thrydar i weithredoedh.

10Kyfion fyth llawen koftir

Yngobaith Duw gwiwdhuw gwir

Yn adhas gogonedhir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help