1Gwared fi odhiwrth (swith yw ’r sen,
Gwaedh anial,) y drwg‐dhynion:
Rhag trawswyr, ail rhwyg tresi,
Accw Duw fyth, cadw fi.
2Y rhai a fwriadai o fron,
Culwedh, dhrygioni calon;
Yn llu ’n ymgasglu, heb gêl,
O rwyf, beunydh i ryfel.
3Tafodau sarph, twf wedi,
Golymmant a chwant i chwi:
Gwenwyn asp sy ’n genni ’n au,
Anfoesol, tan wefusau.
4Cadw o ffordh y ciwed ffol;
Dal, ’Nuw, dwylo annuwiol:
Egr eu trais, rhag gwyr trawsion,
Cywad fyth, cadw fi, O Iôn.
5Bachell i’m traed (bu ochain)
Bwriadant, rhwydant y rhai ’n;
E gudhia y beilch, drwy godhi,
(O fwgl mawr!) faglau i mi:
O far wedi, fe rwyded
Wrth dannau fy llwybrau ar lled:
Gosod drwy boen im’ hoenyn
Ar fy medr, byfedr yw hyn.
6D’wedais, gelwais ar Geli,
F’enaid teg, Fy Nuw wyt ti:
Clyw fy Arglwydh, mawrlwydh mau,
Ddeall llef fy ngwedhïau.
7Duw, Arglwydh nerth, brydferth bron,
Fy iechyd, hoywfryd dwyfron;
Cedwaist fy mhen i’m codiad,
Breuder chwyrn, mewn brwydr a chad.
8Na wrando, Iôn, ar undydh,
Wedhi annuwiol ffol ei ffydh:
Ollawl na wna eu h’wllys,
Rhag balchedh, fu ryfedh frys.
9Y rhai pennaf, er poeni,
Bryd oer, a’m bwriado i:
Dêl y celwydh, rhwydh fawrhau,
Oera’ pwn, ar eu pennau.
10Marwor arnynt, mwy eirian,
Aed hwnt: a bwried hwy ’n tan;
Ac i geuffos, chwerwnos chwant,
Flinach wad, fal na chodant.
11Siaradus, reidus rydyn,
Ni westyd ar dhaear dhyn:
Yn draws fe hela dhyn drwg
I dhistryw, ymliw amlwg.
12Gwn y dïal yn galed
Duw ’r truan lle gwelan’ gêd;
Ac y barn ef, sef da yw ’r son,
Diwael ydoedh, dylodion.
13Rhai kyfiawn yn iawn a wnaut,
O fawredh, d’enw clodforant:
O rinwedh trig yr union,
Gorau Duw fry, ger dy fron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.