1Wrth Fabilon, afon dhinwyfau, — isod,
Eistedhasom ninnau;
Wylasom, buom heb au,
O fedhwl Seion fodhau.
2Ar blyg yr helyg fawrhau, — arwydhion,
Lle ’r oedhynt yn gangau,
Crogasom, rhyngom brudhhau,
Olynol, ein telynau.
3Y rhai a ’n caethai coethan’, — aml enwi,
Am lawenydh didhan;
Mynnynt a gofynynt gan
I ’n gorwedhfa a ’n gridhfan.
Gan dh’wedyd hefyd i fawrhau — ’n penyd,
Poenus yw eu campau,
Cenwch, chwi a frysiwch yn frau,
Nodwch Seion ganiadau.
4Pa fodh, a gwiwrodh o gariad, — cynnil,
Y canwn ni ’n wastad
Gan yr Arglwydh culwydh ca’d,
Yw uthrlais, mewn dïeithrwlad?
5Os anghofiaf, (Naf,) er nych, — sy waeledh,
Gaerusalem lanwych;
Fy neheulaw, fwyn haelwych,
Anghofied gan wiwlan, wych.
6Glyned fy nhafod, gul wyniau, — diflin,
Wrth daflod fy ngenau;
Oni chofiaf, Mawrnaf mau,
Am danat, fy myd innau:
Oni chodaf, Naf, dan wŷdh, — hir solas,
Gaerusalem beunydh;
A hon yn ben llawenydh
Yma fyth i mi a fydh.
7Cofia ffrom Edom wedi, — Caersalem,
Cras‐holant am dani;
Dyna a weithiwch dinoethi,
Sy lefn, hyd ei sylfaen hi.
8Anrheithiedig, dig, ni’s diwygien’ — f’arch,
Babel ferch aflawen;
Gwỳnfyd i gyd, ni’s gwaden’,
A dalo y pwyth, dêl yw pen.
9Hefyd gwỳn ei fyd a fydh — ir dynion,
Drwy ordeiniad celfydh,
A d ’rawo’u plant drwy awydh
Wrth gerrig, ffyrnig yw ’r ffydh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.