1Clyw fy ngwedhi, Rhi, (fawr hedh!) — ymannos,
Clyw ’nymuniad unwedh;
Erglyw son dy wirionedh
A’th gyfiawnder, wychder wedh.
2Na fyn gyfraith faith, rhag difethu, — dwys,
Mae dy was yn crynu:
Nid oes neb heb wrth ’nebu
Ger dy fron yn gyfion gu.
3Gelyn f’enaid, naid anwadal, — gyrrodh,
E’m curodh i’m corwal:
Na’d yr enaid ir anial
Y’mysg meirwon, deillion, dal.
4O’m mewn fy synwyr mwy heno, — f’adwyth,
A ymofidiodh ynof:
Synnodh, e’m curodh o’m kof,
Fy nghalon union ynof.
5Dy hynt kofiais gynt hyn yn gyntaf, — llwyth;
Dy holl waith edrychaf:
Dy weithredoedh, nefoedh Naf,
O fawredh, a fyfyriaf.
6Lledais, a gwaedhais, di a’i gwydhiad, — yn ol,
Fy nwylaw hyd attad:
Fy enaid brych, sych, sydh sad
Am d’enw, hiraeth am danad.
7Clyw ’n ebrwydh, Arglwydh, oerglais, — tyr’d unwaith,
Tro d’wyneb, — mi bellhais;
Rhag ’mod ’ debyg, lle trigais,
Rhai ir bedh fo ’n gorwedh, oer gais.
8Gad im’ glywed, gêd ar gais, — dro gwirion,
Drugaredh gobeithiais:
Dangos fy ffordh, loywffordh lais;
A chof, f’enaid dyrchefais.
9Gwared fi, Geli, gelwais, — o lawnedh
Fy ngelynion garwlais;
Can’s gyd a thi, trymgri trais,
Gwedhol iawn, yr ymgudhiais.
10Dysg ar frys d’w’llys; deallydh — odiaeth
Ydwyd, fy Nuw, beunydh:
T’wysed d’Yspryd, fywyd fydh,
I ’r unionder yn undydh.
11Gwna fi ’n syw yn fyw yn fuan, — mewn dawn,
Er mwyn d’enw gwiwlan:
O’th gyfiawnder, Gloywner glan,
Ollawl, dwg f’enaid allan.
12Dinystr elyn dhyn adhunwyf, — dro gwir,
O’th drugaredh archwyf;
A’m henaid mi dhymunwyf,
Difetha ’nghas: dy was wyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.