1Yr Holl bobloedh er ych lles
Dowch yn nes i wrando,
A deglevwch chwi bawb ynghyd
Syth yu y byd yn tario-
2Isel vchel man a bras
Kas a chyd-ymdeithion:
Y kyfoethawg a phob tylawd
Kar, a brawd, ag estron.
3Ni dhaw dim om genau per
Onid doethder mwynffraeth:
A myfyrdawd dan fy mronn
Fynghalon yw gwybodaeth.
4Ir wyf fi ’n bwriadu draw
Wrandaw ar dhamhegion,
Ag a draetha ’ngherdh fal hynn
Gida ’r delyn gyson.
5Pam yr ofnaf? na dal gwg
Er bod yn dhrwg y dydhiau,
A chwmpassu o beched ffol
Hyd ar ol fy sodlau.
6Yn i golud wrth i rhaid
Ir ymdhiriaid anoeth:
Ag a fostian yn i byw
Amled yw eu kyfoeth.
7Ni all dyn gan dhuw ae rhoes
Brynnu einioes vndyn:
Ag ni dhichin mae ’n rhy drwm
Dalu arianswm drostyn.
8Gwerthfawr ydyw gan dhuw mau
Yr eneidiau duwiawl:
9Gar i fronn Duw gorau fry
A bery yn dragwydhawl.
10Ni all neb er hynn o hawl
Fyw ’n dragwydhawl dirion:
Rhaid yw vdhynt fynd ir bedh
A gorwedh gida ’r meirwon.
Pawb a welwch ar i hynt
Rhaid vdhynt feirw vnawr:
Kall ag angall dall a doeth
A gado i kyfoeth tramawr.
11A bwriadu gadu yw plant
Fedhiant yn i tiroedh:
Plasau pleser bryder brav
I barhau oes oessoedh.
12Dyn ni ffery yn i ras
Nag yn i vrdhas bydol:
Fo fydh farw dan y dail
Fal nifail pedwar karnol.
13Ni ochelant hynn ar ol
Er bod yn ffol yllwybran:
Yr vn ffyrdh a gerdh i plant
A gerdhassant hwythau.
14Fal y gyrrir defaid man
Ir gordhlan kynn i lladhfa;
Angau kaeth ae gyrr hwy ir bedh
I orwedh wedi i difa.
Y rhai kyfion ffrwythlon ffraeth
A gaiff lywodraeth arnynt:
Fo dhiflanna i pryd ae gwedh
Kynn mynd ir bedh o honynt.
15Ond yr arglwydh wrth fy rhaid
Sy’n gwared f’enaid kyfion:
O dhiwrth nerth y bedh ar gro
Ae derbyn atto’n vnion.
16Na fid arnad ofn y chwaith
Er golud maith anuwiol:
A chynydhu yn i blas
I vrdhas yn orchestol.
17Kans ni chymer gidag ef
Dhim yw gartref ola:
Ag nis dilin ar i ol
I falchder ffol o dhyma.
18A thra ydoedh yn y byd
Pawb ae wnfyd eiriau
Y[n] i ganmol trwy fawr hud
O serch i olud yntau.
19Rhaid yw idhynt fynd yn frau
Ar ol i teidiau bydol:
Yn llaw angau fal i Ryw
Ni allant fyw ’n dragwydhol.
20Gwr mewn vrdhas ni bydh gall
Ag ni dheuall hyn[n]y
Fal anifail hwnn a fydh
Dan y gwydh yn rhynny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.