Psalmau 132 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y CXXXII Psalm. Englyn or hen-ganiad.

1Cof Dafydh

Caffer

cêr

Lawn-daith flinder:

A dyngodh medh y medher

Araith iawn iaith wrth ein ner

2Ag fû dêg fôdh

Dhawn adhunodhi

I Dhuw grymys rafys rôdh

Did wyll Iaco y dwedodh.

3Nid âf dyfy

Am taith im tûy

Ni dhringaf ni fryfiaf fry

Gwaelawd nag erchwyn gwely.

4Hun nid ûnaf

Yn wir Dhuw nâf

Amrannau yn cau nis caf

Yn wych esgyd ni chysgaf.

5Nes cael naws cêd

Fann i fyned:

I Dhuw Iaco croeso cred

Lle gallo dreidhio i drwydhed.

6Càn am dani

Mwy clowsom i:

Yn Ephrad hâd cowsom hi

Ym-meusydh goedydh gwedi.

7Awn bid yn bell

Bawb yw babell:

Ymgrymwn gwelwn mae gwell

Yn gyfion flaen i gafell.

8Cyfod cyfion

Yn nêr a’n ion:

Yna ith orphwyssa vnion

Ath arch bid gadernid dôn.

9Gwisc cau gwaisg caid

Fferau offeiriaid:

Gyfiownder gweler gwiliaid

Ith Saint gorfoledh ith said.

10Na wrthod nêr

Was dewiser:

Er mwyn Dafydh bur-ffydh ber

Wyneb eneiniog wiw-ner.

11Tyngodh môdh maith

Wir iawn araith:

Dafydh ae bur-ffydh berffaith

Dy blant a farnant yn faith.

A thrig ni thry

Hwnn dhiwrth hynny:

Os dy feibion wir-fronn fry

A gadwant i’ammod gwedy.

12O Dasg dysgwyf

Benn nêr heb nwyf:

Fyn-hystiolaeth ffraeth ffrwythwyf

A’m cyfraith berffaith lle bwyf.

Mwy barch meibion

Hwy oll hoew ion:

Byth eistedhant dwedant dôn

Yn onest mewn barn vnion.

13Mynych mwynn

Syw yw Sêion:

E dhwedai adheweidion

Mynnai drigo yno ion.

14Trwy gred trig rydh

Gwiw ’n dragywydh:

Yma trigaf gwchaf gwydh

Chwenychais wych iawn cchwydh.

15A rhôf dha rhith

Fwynder fendith:

I dlodion vnion wenith

Y bara ail yna i wlith.

16Gwisg wych gwaisg aeth

Rhyd ffeiriadaeth:

Pob sant a gânant nid gwaeth

Wyd ior dy Iechydwriaeth.

17Yn wir wiw nâf

Pûr y paraf:

I gorn i flagure a gâf

Llugern eneiniog llôgaf.

18Gwisg yw gwaisg ion

Lawn elynion:

A chywilydh rhydh pe rhôn

Geirwir blodeua i goron.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help