1O Arglwydh Dduw, Duw a dal
Duw Duw yw Duw y dïal:
Duw ’r diâl diofal da
Dwys glaer walch ymdyscleiria.
2Ym-dhyrcha yna ennyd
Fowrner barch farnwr y byd
Tal di yn sobr i gobr heb ged
Ir beilchion, er eu balched.
3Pa hyd fydh llawenydh llonn
Anaele ’r anuwiolion?
Pa orfoledh ryfedh rus
Drwy gynnal, ir drygionus?
4Yr anwirion gweision gant
Rhugl oll ir ymfawrhygant:
Dwedant yn galed wedi
Drwy fugad siarad a si.
5Dy’tifedhiaeth ffraeth ffrwythyd
Cystudhiant baedhant ir byd.
6Gwedhw, dïeithr, rhif ymdhifad,
Lladhant oll nid llwydhiant wad
7Hyfedr dwedasant hefyd,
Ni wyl farglwydh wiwlwydh wyd:
Ag ni dheuall gwall o gawdh
Duw Iago hynn ae digiawdh.
8Ystyriwch hynn o storia
Anoeth bobloedh bleidioedh bla:
Ar ynsydion ffladr‐don fflwch
Deillion pam nas deuallwch?
9Oni chlyw ef o nef neun,
A luniodh glust bilionen?
Oni wel ni ochel naid
Llugyrn a luniodh Llygaid?
10Oni chysp yr hwnn vluch oedh
Yn edliw ir cenhedloedh?
Yr hwn a dhysg rhinwedh ion
Dasg dha iawn dysg i dhynion.
11Gwyr fedhyliau ’n gwau fal gwynt
O dhwedyd gwagedh ydynt:
12Gwnfyd yn siwr dy wr di
Ag yspys hwnn a gosbi
Hwnn a dhysgi gweli ’r gwaith
A gwiwfraint yn dy gyfraith:
13Caiff lonydh tra bydh ir byd
O rywiogfodh rhag drygfyd:
Nes clodhier ffos nos yn ol
Yn awydh ir anuwiol.
14Ni ad yr arglwydh iawn oedh
O bai wiw blaid i bobloedh:
Ag ni wrthyd mwynbryd maeth
At fodhion i etifedhiaeth.
15Dychwel cadarn farn yn ferr
O fendith at gyfiownder:
Rhai vnion galon gwelant
O rwysg ar i ol yr ânt,
16Pwy gida mi ri di‐rus
A gawn erbyn drygionus?
Pwy gida mi rhi yr hedd
Nawr yn erbyn enwiredh?
17Oni bai naf im gafael
Yn borth yn gymorth yw gael:
Nid yn dhistaw draw di‐raid
Fannwyl trigasai f’enaid.
18Pann dhywedwn gwnn gannoed
Yn rhwysg y Llithrodh ynchoed:
Dy drugaredh mwynwedh mai
Yn hylan am kynhaliai.
19Yn amlder kyflawnder cau
A thaliwn o tedhyliau:
Llawenydh a rydh wrth raid
Didhan wch dydh i enaid.
20Oes gymdeithas a gwas gwael
Nag oe drrwn gida ’r anael
A lunio hir anwiredh
Yn lle ’r gyfraith faith a fedh:
21Yn finteioedh lluoedh llawn
Dig cofio ar enaid cyfiawn.
Agwaed tirion gwitioniaid
I grog yn euog ar naid:
22Ond arglwydh yr arglwydhi
Im oes ly ymdhiffynfa ymi.
A Duw yw ’nghraig loewgraig lan
Ymdhiriaid amodh eirian:
23I hanwiredh maiwedh maith
Ae drygioni a dyrr ganwaith
A Duw Arglwydh y dial
Ae tyrr hwy ymaith yw tal.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.