1Bvm lawen hoen awen hyf,
O wyrth pan dhwedent wrthyf:
Awn yno i gyd yn iawn gof
Da yw o nerth, i dûy y naf
2Yno daed yn traed nid trwm
A safant nis gweithiant gam:
O fewn dy byrth fwyn dyb ym
Ar solas Gaerusalem.
3Tref a gâd gwedi ei hadail
Gaerusalem hoewlem hwyl:
Yn vnwedh gwiw fowredh goel
Ag yn vn hynt, gann ion hael.
4Os cênwch llwythau esgynnodh
Llwythau ’n nêr o fowrder fydh:
Dyst Israel dw[y]s dewis-radh
A mawl enw ior aml iawn wedh.
5Gosodwyd gwelwyd dêg orn
I drwn sydh dirion ei swrn:
Ar y fainck e gair y farn
Tûy Ddafydh wych awydh chwyrn.
6Damunwch gael hedhwch hwnt
Gaersalem grâs a welont:
Llwydhed bô well‐well vdhynt
Raith hyffordh ar ath hoffant.
7Bid hedhwch byd a haedhent
Yn i chaerau ni chûront:
Ag ith blasau gorau gynt
Hoff anwyl y bo ffynniant.
8Er mwyn fy mrodyr ior maith
Am cyfeillion digon doeth:
Dwedaf yn awr da odiaeth.
Bo yt lywydh beunydh bwyth.
9Er mwyn tûy ’r arglwydh rwydho
Daeonus a’n Duw yna:
Ceisiaf fyth goran cais fu
Oedh annwyl yt dhaeoni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.