1Kanwn a dwedwn da dyb
Duw ’n nerth nid ail wyd i neb:
A glodhest pob conkwest kerdh
Dhwys hoew-gerdh i Duw siagob
2Kymerwch bêr Psalterion
Wedi vnparch ar dinpan:
A luwt deg loew etto daw
Ich dwylaw kymrwch delyn.
3Kênwych y dydh keinwych dal
Lleuad newydh na fydh ful:
Yn fanwl kân yn fwynwych
Ydoedh wych dydhiau vchel.
4Hynn yw status gwedhus goel
A dewisran Duw Israel:
Gorchmynnawdh mynnawdh ior maith
Deg o raith Duw Iago ’r wyl.
5Tystiolaeth a wnaeth yn well
I Sioseb dhewindeb dhull:
O’r Aipht pann dwysawdh ior eithr
A dïeithr fu y deuall.
6Y llwyth a dynnais fal llew,
O dhiar dy ysgwydh oedh wiw:
Ar
Prîdhfeini.
brik a wnaethost oer brid
A welid yn dy dhwylaw.
7Gelwaist ar byd yn galed,
Tyb o serch atebais yd:
Profais di ’n wr mewn dwr da
Meriba a mawr wybod.
8Os pobloedh dorfoedh dyrfa
Yn gywreindeb sy’n gwrando:
Sickr di a gai swckr di-gêl
Yn dawel o gwrandewi.
9Eithr vn Duw dieithr nid êl
Diau ’n wir ith dai yn ol,
Na pharch i dhelw dhielwig
Na geudhuw dig idhaw dyl.
10Ydwyf dy dhuw loewdhuw lwyth
Tynnais di or Aipht vnwaith:
Agor dy safn heb wegi
Yno mi ae llanwa a maeth.
11Ni wrendy dyn or vndydh
Fy llais a rodhais o radh:
Ond Israel a gafael gaeth
Gwarth odiaeth am gwrthododh.
12Gollyngais hwynt goll‐angen
Yw kyndynrwydh aflwydh wŷn:
Aet hant och oedh hynt o chwith
Ynghyrrith i kynghorion.
13O tostur dolur on’d oedh
Fyng-wyr ni wrendy fyngwaedh;
Nad ai Israel er mael mau;
I’m llwybrau am wall ebrwydh.
14Ni’s diêngynt gostyngwn
Gelanedh oe gelynion:
I gwrthnebwyr gwyr nid gwell
Yn hirbell trown yw herbyn.
15Kaseion Duw keisian dêg
Ostwng idho ffaelio o ffug:
Ai hamser i leferydh
Hwythau fydh dragywydh drwg.
16Bwydid ef be da dyfyn
Ar gwenith o r eginin:
A mêl or graig mowlair gwiw
Iaith dhull‐hoewith dhiwallwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.