1Chwiliaist, ti’m gwiliaist, Geli,
Adnabuost (heb fost) fi.
2Ti adwaenost, wiw daenu,
F’eistedhiad a’m codiad cu:
Cyn im’ dybio, pwyllo pwl,
Modhus, dealli’m medhwl.
3Fy llwybr wedh, fy ngorwedhfa,
Cwmpasit, Iôr campus, da;
I’m ffyrdh oll, heb dhim colled,
Wyd hyspys, gwybydhus ged.
4Gwir fyth, nid oes gair i fod
Yn hyfedr ar fy nhafod,
Ond dydi ’n awr, heb fawr fost,
A llwydhiant, oll a wydhost.
5Y’mlaen, (ceir mawl a enwer,)
Yn ol i’m lluniaist, fy Nêr;
Gosodaist, nodaist, fy Naf,
Del wirnerth, dy law arnaf.
6Llyma wybodaeth ffraethwych
Rhy dhirgel, ag ardhel gwych;
Uwchlaw hyn, uchel yw hi,
Dda wyrth, ni wn odhiwrthi.
7I b’le ’r af (mi welaf wŷd
Dwysbrawf) odhiwrth dy Yspryd?
I b’le o’th ŵydh, (rhwydh lwfrhau)
F’anwyl, y ffoaf finnau.
8O dringaf (sef) ir nefoedh,
Yno bydhi di, da oedh:
Os mewn bedh y gorwedhaf,
(Union waith) wyt yno, Naf.
9Pe cymmerwn, gwn, yn gu,
Adenydh gwawr i daenu;
Be trigwn, a byd drygwaith,
Yn eithafoedh moroedh maith:
10Yno hefyd (mae ’n hoywfan)
I’m t’wysai draw dy law lan;
A’th dheheulaw, aelaw ai,
Yn hylwydh a’m cynhaliai.
11Mi wn, pe d’wedwn, mai da,
Codhed tywyllwch a’m cudhia;
Y nos a fydhai i ni,
Anwyl iawn, yn oleuni.
12Nid trwch tywyllwch it’ oedh
Nos, — fal golau ynysoedh:
Y tywyll hynt o awydh
Gwelid it’ fal golau dydh.
13Medhiannaist, mynnaist, Iôr mau,
Fwy rinwedh, fy arennau:
Toaist finnau, tyst fyned,
Y ’nghroth fy mam, dhigam gêd.
14Clodforaf di, mynni mwy;
Yn odiaeth, wyt ofnadwy:
Rhyfedhed dy weithredoedh, —
Rhifo y gwaith rhyfig oedh;
A ’r enaid a ŵyr yna,
A’i henwi ’n dhoeth hynny ’n dha.
15Ni chair fy esgyrn a chêl,
Diweirgorph, er llun dirgel;
A’m llunio ’n gêl fy helynt
Ar y dhaear, hygar hynt.
16Ti a’m gwelaist, mag eilun,
Yn achles, heb les, heb lun;
I’th lyfrau, golau Geli,
Pan luniwyd, ’sgrifenwyd fi;
Pan nad oedh, pennod ei hynt,
Hanes yr un o honynt.
17Duw, mor brydferth, fraisg werthfawr,
Dy gynghorau i minnau mawr!
Mor fawr! mor dramawr drimwy,
Iso, am hyn, yw eu swm hwy!
18Pe rhifwn, ni wydhwn nod,
Tyfant amlach na ’r tyfod:
Ystyr wrth dheffro’u wastad,
Wyf gydi thi fy Rhi rhad.
19Afreol annuwiolwyr
(Duw) a ledhi, waedli wyr:
I ’r rhai ’n y d’wedai, ŵr hyf,
Ciliwch (dhû erthwch) ’dhiwrthyf.
20’Rhai a’u nad am danad der,
O naws coel, yn ysgeler:
Dy elyn a fyn yw fant
Yn ofer dy enw a nwyfiant.
21Cas gennyf, Nêr, wiwber Iôn,
Gas awydh, dy gaseion:
On’d yw ffiaidh, ŵraidh wŷn,
Wirbwyll, pawb sydh i’th erbyn?
22Y rhai ’n fal gwas cas cu cawn,
Ag o afles yn gyflawn;
Fal pe bydhynt, dwys hynt son,
(O alanas!) im’ elynion.
23Chwilia, gwybydh, trefnydh tro,
Fy nghalon union yno:
Prawf a gwybydh, prif gobaith,
Fy medhyliau, modhau maith.
24A gwyl fy ffordh, ai gwiliaid
Ai ffol annuwiol yw ’r naid;
Tywys fi i ffordh, hyffordh hawl,
Ag adhysg, yn dragwydhawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.