Psalmau 86 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXXXVI Psalm. Gwaewdodyn byrr.

1Gostwng o arglwydh rhwydh i rodhiau

Gwrando fi pair vst ymhob clustiau;

Wyf druan writhian o fwythau disgwyl

Telid duw fannwyl tlawd wyf innau.

2Cadw di fy enaid rhaid im rheidiau

Gwnaethost fi ’n dhuwiol wrol eiriau

Cadwoth ras dy was duw eisiau gwnn fod

Ymdhiried ynod nôd anwydau.

3Trugaredh f’arglwydh wyt ior gorau

Dangos ymannos Duw i minnau

Cans arnad girad ragorau cystydh

Y llefaf yn rhydh bevnydh boenau.

4Gwna wên yn llawen a thrwy wellau

Dy weision wedi dwys eneidiau

Cans attad heb wâd heb au wrth dhisgwyl

Ackw i dy f’annwyl codaf innau.

5Cans tydi rglwydh swydh ansodhau

Wyt dha dhiom-wedh trugaredhau

O fawr drugaredh gan forau gwir-sant

I bawb ath alwant bob iaith olau.

6Clyw etto Arglwydh Duw mowr-lwydh mau

Fy ing a dhowed fyng-wedhiau

Yna ystyria dosturiau ymbil

Yllais sy eidhil o wall swydhau.

7Y nydh kyfyngder nifer nwyfau

Arnad a llafar oernad llefau

Cans ti am clowi Duw clau f’ymdhiriaid

Gwir vnduw f’enaid gwrando finnau.

8Nid oes vn kymysg in mysg ion mau

Ond tydi dewin tad y Duwiau

Nid oedh weithredoedh wrth radau arwydh

Tebig ir arglwydh rhwydh in mawrhau.

9A phawb heb fost a wnaethost dithau

Deuant adholant nid i dhelwau

Duw tirion ger bronn breiniau d’enw ner

Yr hwnn adholer gweler nad gau.

10Canys mawr ydwyd gwelwyd gwylian

Yn gwneuthur gormod rhyfedhodau

Ti a drig yn vnig i ninnau ’n arglwydh

I roi on herwydh ebrwydh obrau.

11Dysg ymy arglwydh dyebrwydh lwyhrau

Rhodiaf yn hedh dy wirionedhau

Vna ’nghalon fronn yn frau a thydi

Ofnaf d’enwi o fewn nwyf donian

12Moliannaf f’arglwydh aml o en wau

A’m calon ffydhlon pe rhon parhau

Gogonedhaf kaf cofiau dy enw ner

Hyd dragwydholder dyner dannau.

13Mawr dy drugaredh ath rinwedhau

A da ymannos Duw i minnau

Cedwaist gwaredaist gwrydau fenaid

O vphern y blaid ae ffwrn i blau.

14Gwrthneba ’r beilchion yn ion ninnau

F’enaid a gais cedyrn ar fannau

Plant nith osodant naws oedau egwan

Yn hy weithian ger i bromn hwythau.

15Mwy dy drugaredh na ’n camwedhau

A hydhfryd raslawn dawn a doniau

Hwyrfrydig yn dhig, yn dhau amlach hedh

Mowredh drugaredh gwirionedh gwau.

16Edrych arna ’n lledhf rhag dy dhedhfau

Trugarha wrthyf trwy groiw wyrthiau

Nertha a gras dy was di eisiau achwyn

Fab dy law‐forwyn gwỳn om genau.

17Arwydh daeoni ymi heb ammau

Gwyl fynghaseion tyrr i klonnau

Kwilydhiynt, dwys hynt os hwyntau a welant

Ym enw o lwydhiant mwyn o wledhau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help