1Attad rhedaf naf yn wir
I gywilydh nim gwelir:
2Gwared naf gorau wyd ner
Gwiw fendith dy gyfiownder
Gwrando ’ngwaedh gwrando ’ngwedhi
O iechyd tyth a chadw fi:
3Adhewaist wyd yn dhiwael
Ymy nerth hwnt mae ’n wyrth hael.
Etto y tad do attad di
Graig kadarn gorau y kedwi.
Duw gwared rhag dig araith
Dichellion dynion oer daith.
4Arnad kaf gowir-nod kais
O drachwant ir edrychais
5Mawr boen pann dhoethym ir byd
A mau obaith im mebyd.
6Di or groth diorwag rann
Am megaist nid mwy ogan;
Ag yn ol o eigion ais
Wiw Lownedh ith foliennais.
7Ydwyf derfysg y mysg mil
Anghu anfad anghenfil.
Dydi er hynn dad y rhaid
Dhuw orig yw f’ymdhiriaid.
8Genau mau ath ogonant
A mawl y llen wir fy mant.
9Nam gwrthod breisgnod ior braint
Nag im-hoen nag im henaint.
O diffig nerth drafferth draw
Hybarch na fwrw fi heibiaw.
10Fyngelynion gwychien gant
Sur ydoedh a siaradant.
Gwael yw’r iaith im gwilwyr i
O hirwg ymgynghori:
11A Duw fyth medhant oe fodh
Gwarth wedi ae gwrthododh.
Deliwch a cheblwch a rhed
O gur nid oes ae gwared.
12Na fydh yn hir fodhion hyf
O Dhuw wyrthiawg odhiwrthyf:
O Duw brysia gwycha gwedh
Im kymorth rhag dim kamwedh.
13Derfydh kywilydh i kaid
Gelynion sy im gwael enaid.
Mwyfwy os pair ym ofid
I warth aflwydh gwrad wydh gwrid
14If bob amser ner am naf
Ym oedh raid ymdhiriedaf;
A chanaf yn wych hynod
Fal iaith glaer dy fawl ath glod
15Am genav mi a ganaf
Dy gyfiownder ner am naf.
Ni wnn irif a ffrif ffraeth
Wyd ior dy iechydwriaeth.
16Rhodia ’n war o rhoi di nerth
Duw parodfawl, da prydferth.
Kofio a wnaf kyfiawn ner
Kofio vndod kyfiownder.
17Er yn fachgen fyngeni
Dwys gost fyth dysgaist fi
Trevthais a welais heb av
Wedi dy ryfedhodav.
18Duw vchod nam gwrthoder
Yn bennwyn iawn bawn yn ber.
Nes iym draethv medhv mawl
Dy dhawn wyrth didhan nerthawl.
19Dy gyfiownder kofier kaf
Ae draethv hyd yr eithaf
Gweithiaist fowredh freisgedh frig
Wyd obaith pwy sy debig
20Dangosaist mynnaist y mi
A gwael adwyth galedi.
Di am tynni kodi kar
Dawn dhvw, odhi dann dhaear.
21Ag amlhai nid gwamal hedh
Ymmy orig fy mowredh.
Ag eilwaith fyng-wirgalon
Y kysuri fi fy ion.
22Yn ol kanaf dy foliant
Ath wawd a thafawd a thanf,
Dy wiredh hwnt iraidh hael
Dewisrodh vndvw Israel.
23O kanaf yf aken faith
Llyna wefus llawn afiaith.
Am enaid a dhowaid dhawn
A brynnaist yn ber vniawn.
24Be vnydh traethaf am tafawd
Dy gyfiownder gwiwner gwawd.
Kywilydh gwarth kledh a gânt
Yn rhvthr sawl am anrheithiant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.