1Clodforaf molaf Dhuw am iôn ollawl
O wllys fynghalon:
Mewn lle dirgel dawel dôn
Torf ranniad tyrfa ’r vnion.
2Duw iown-wych rwydh-wych radhoedh mor odiaeth
Mawr ydyw i weithredoedh:
Yspys arswydys ydoedh
Ir sawl ae hofnant râs oedh.
3I waith ef o nêf nid gann ofid hirdhadl.
Yw hardhwch a glendid:
I gyfiownder a gerid
A bery byth bob awr bîd.
4Gwnaeth gôffa yna enwawg i dhidwyll
Ryfedhodau cangawg:
Graslawn a rhwydh-lawn yw rhawg
Athro gwyr a thrugarawg.
5Rhoi i ymborth ae borth y bydh i hyfnod
Sawl ae hofnant beunydh:
Cofio i amod fowrglod fydh
Draw a gai yn dragywydh.
6E dhywad heb wâd ydoedh o iawn wyrth
Holl nerth i weithredoedh:
Rhoe ydhynt dir yn wir oedh.
Ackw’ n adloes ce nhedloedh.
7Barn gwirionedh hêdh dhihudhaw ydyw
Gweithredoedh i dhwylaw:
I orchmynion dôn lle daw
Yn ol sy ’n ffydhlon aelaw.
8O siccr-hau dydhiau nis diwedher fyth
Tra fo tragwydholder
Mewn gwirionedh purwedh pêr
Yn vndydh ag vniownder.
9Gorchmynnodh mynnodh manol a mowrair
Ym wared trag wydhol:
I enw sy o wraidh sanctaidhiol
A mwy ofnadwy yn ôl.
10Dechrau doethder pêr lle parant fowrglod
Yw ofn fa’rglwydh gwirsant:
Da dheull yn gall a gânt
O fowredh ae harferant.
Ef piau mwyhau y mawl gywir-dhull
Y gwirdhuw tragwydhawl:
Yn parhau ’n wir pûr iawn hawl
Oes‐oesoedh yn rasusawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.