Psalmau 138 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. CXXXVIII. Englyn Unodl Gyrch.

1Canaf, clodforaf fy Iôn,

Lle gwelir, a’m holl galon:

Y ’ngŵydh y duwiau, ’Ngwiwnaf,

Y canaf it’ accenion.

2Ymgrymmaf, canaf, deg hau,

I’th santaidh demlwaith seintiau;

A’th wir enw a’th wirionedh

Oedh drugaredh, dro gorau.

Oblegyd ir byd yn bêr

Mawr yw dy enw, mor dyner!

A’th air yn berffaith araf

Uwch pawb, Naf, ac uwch pob Nêr.

3Arnad gelwais, trais, nid rhaid,

Gwrandewaist, gwir Iôn dywaid;

Cadarn o’th farn, freisgfarn fry,

Wrth hynny fu nerth enaid,

4Cof Arglwydh rhwydh arglwydhi,

Clywsant eiriau d’enau di:

Brenhinoedh daear, war wedh,

O fawredh, sy i’th glodfori.

5Ag yno i Dduw a genynt,

A’i lwybrau i fawrhau ’r hynt:

Gogoniant Nêr, dyner dôn,

A’i ymwaredion, mawr ydynt.

6Uchel i ochel dichell

Yw ’r Arglwydh yw gŵydh, a gwell:

Difai y gwyl dhyn difalch;

Y dyn balch edwyn o bell.

7Da, gwn, pe rhodiwn y rhawg

Y ’nghanol byd anghenawg,

Ni flinwn yn aflonydh,

Yn f’awydh ti’m gwnai ’n fywiawg:

Estynnit law, aelaw Iôn,

Dêg eilwaith, rhag dig galon;

O drais i’m hachubai draw

Dy dheheulaw, dydh haelion.

8Ein Nêr a gyflawna, un wedh,

Dro gorau, im’ drugaredh;

Dy rad, (O fraint!) Ior wyd fry,

Fyth a bery, faith buredh:

Na ’sgeulusa yna (o

Ddialedh) waith dy dhwylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help