1Parawd ynghoel-wawd yw ’nghalon
Parawd yw y tafawd yt ion
Waith vnion a thannau.
2Deffro fy vrohas da ras drwsiad
Deffro vgeinwaith deffro ganiad
Bwriad yw kodi y borau.
3Wrth genhedloedh miloedh molaf
O wedh kynnil i Dhuw kanaf
Adhôlaf hynn oedh olau.
4Da air enwi yw dy rinwedh
Ath wir vnion ath wirionedh
Eilwedh vwch y kymylau.
5Dyrchafer ef vwch y nefo[e]dh
A gogoniant moliant miloedh
Vwch tiroedh vwch y tyrau.
6Im bydh llawn awydh a llon awel
7Yw seintwar dawel sant ior diwad:
Im pobloedh rhinioedh mi a rhannaf
Sichem mi fynnaf rwydhaf rodhiad.
Succoth dyphryn pur a fesuraf
8Imi y gwelaf y mae Gilead
Manasses wiw ffres wedi Effrym
Hwnnw yw grym a henw gwiw rad
Iuda dewisa ym yn
Legislator.
dwysawg
9A Moab yw ’nghawg yrhawg yn rhad
Ag ar gefn Edom drom oer drumiau
Bwriaf f’esgidiau, byrr fwys godiad.
A Phalestina yna-vn-nos
Yn llonn o achos llawenychiad.
10Pa wys a’m towys ymysg teyrn
I gaerau kedyrn gorau keidwad.
A phwy i Edom ym dhiom wedh
A’n dwg i vnwedh mevdwy ganiad.
11In digio yleni di an diglonnaist
I ffô in heliaist an ffynn hwyliad:
Heb dwyso yno yn dhianair
Anllawen y kair yn llu a’n kad.
12Rhag blinfyd y byd bid Duw yn borth
A daw in kymorth dewin keimiad.
Ofer-nerth a serth ydyw pob son
A allo dynion lleia doniad.
13Gwnawn hyder tyner arnat vnion
O wyrth diwydion o nerth Duw dad.
Y gelyn ised gwael yn wasarn
Syth a y[r]ri ’n sarn ae sethru-’n sad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.