1A’m henaid gannaid, deg, union, — modhus,
A’m medhwl, a’m calon,
Yn felus canaf foliant
I Dduw Iôr Sant, dhiwair son.
2I’m bywyd, ennyd un‐awr, — mael enwog,
Moliannaf Dduw tramawr:
Molaf, galwaf ar Geli,
Dra f’wyf fi, a ’r dyrfa fawr.
3T’wysogion, dynion, dy enaid — (eidhod)
Idhynt nac ymdhiriaid;
Rhannu dir ir rhai ’n nid aeth
Iechydwriaeth, iach diriaid.
4Aiff bar ir dhaear dhiau, — a’u hasbri,
Gyda’u hyspryd hwyntau:
Yn y dydh hwnnw e dodhant
A dhaliant o fedhyliau.
5Gwỳn ei fyd i gyd sydh gu, — diogan,
Duw Iago yw helpu;
Yn yr Arglwydh mawrlwydh, maith,
Dy obaith, — Duw a wybu:
6Nef war, môr, daear duedh, — llawendhysg,
Ag oll yndhynt unwedh:
Yn dragwydhawl, hawl fawrhau,
Duw orau a geidw’i wiredh.
7Cyflawnder hyder yw ’r hwyl — ireidhwych,
A rodhai i bob dyn gŵyl;
A rhydh ei borthiant y rhawg
I newynawg yn anwyl.
Carcharwyr, caethwyr coethion, — a gallu,
Fe’u gollwng yn rhydhion:
8I dhall y rhydh wellhau rhaid
I’w lygaid a’i olygon.
Y crymion gweinion, wrth gŵyno — gofid,
A gyfyd Duw ucho:
A Duw a gar yn deg iawn
Wr kyfiawn, orau kofio.
Duw digymmar car bob cêd, — y cyfion,
A phob kofus weithred:
9Ymdhiffyn ei fydhin fo,
Duw Athro, y dïeithred.
Plant ymdhifaid, blaid bobl ir, — gŵydhoch,
Gwragedh gwedhwon cedwir:
E dhymchwel, yn dawel dôu,
Annuwiolion — ni welir.
10Yr Arglwydh gwiwrwydh, gwirion, — drwy ’n oesoedh,
A deyrnasa ’n gyfion,
Bythoedh, ar ol bydoedh bach,
Dros hayach, Duw ar Seion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.