Psalmau 67 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y LXVII Psalm. Trybedd menaich hen ofer-fesur

1O Dhuw mawr madhau ymi

Duw agwrdh bendigi

Duw parawd y peri

Dy wyneb towynni

Atton ni di wyt yn naf.

2-3Pobloedh miloedh molant;

Eilwaith Duw adholant,

A mowlair moliant:

Kenhedloedh kain odlant

O drachwant duw ior vchaf.

4Diau oll bobl daear

Yn llawen gwên rhai gwar:

Kyfion farn kefnai far,

A llywodraeth gaeth gar

Digyfar duw a gofiaf.

5Pobloedh miloedh molant

Eilwaith duw adholant,

A mowlair moliant:

Kenedloedh kain odlant

O drachwant duw ior vchaf.

6Da[e]ar rhoes pumoes pêr

Downus ffrwyth dyner,

Duw ydwyd dyweder,

Dy fendith, dy fwynder,

Dyro yn ner duw ior naf.

7Dôd f’unduw dod fendith

Dad yn plaid dod in plith,

Dwfn a chair d’ofni chwith

Daw ar holl daear rith

Di chwith a gar duw vchaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help