Psalmau 39 - Welsh Metrical Psalms by William Middleton 1595 - Original edition

Y Psalm. XXXIX. Vnodl Vnion.

1D’wedais naf gwiliaf goelwawd oll ebrwydh,

Fy llwybrau hyd dhydhbrawd:

Rag ym bechu im knu knawd

Amod hyfedr am tafawd.

Kadwa ’n frau ’r genau er gwg hoff rinwedh,

Wedi ffrwyno ’n amlwg:

Tra fo ’r enwir dihir dwg

Ym gywilydh im golwg.

2Tewais nis dwedais naws da o goelwaith

A gelair rhag traha:

Am tristyd, oe blegyd bla

Ag yn hawdh a gynnydha.

3Am kalon vnion gann wnniaw o dhig

Sydh oll gwedi thwymnaw:

Enynodh tan drogan draw

O fawredh fy myfyriaw.

4Dwedais arglwydh rwydh radhau am tafod,

Mae tyfiant i minnau.

Gad ym wybod breisgnod brau

Annwyl fyniwedh innau.

Beth yw hyd enhyd anaf anwedhus,

Fynydhiau a fedhaf?

Gwybod hefyd hyd haf

O bai fodh byw a fydhaf?

5Fal lled llaw yw draw Duw dri anaidh[il],

Fy nydhiau o rhifi:

Beth yw f’oedrann gwann gyni

Aruth wyt ior wrthyf ti?

6Nid yw gwr yn siwr ond sorod fawrair,

Ag oferedh hynod:

Pawb a rodia ’n waetha nod

O kae esgus mewn kysgod.

Kasgl ef dha yna anwr o drafferth

Drwy offis fal ockrwr:

Ag ni wyr y gwann oerwr

Pwy ae medha gwaela gwr.

7Beth bellach anach awenydh diriaid,

A daria fi bevnydh?

Am gobaith mi ae gwybydh

Vnduw sad ynod ysydh.

8’Gwares fi geli gowlaid wych ydwyd

Rhag pechodau f’enaid;

Na wna fi, fy-rhi maen rhaid

Ior ffel dhirmyg ir flloliaid.

9Ag yn sud o hud nod hawdh o bossibl,

Buasswn nid anhawdh:

Wedi hau ’r genau drwy gawdh

Duw pur dydi ae parawdh.

10Tynn dy bla bryssia bu rann waedh erthwch,

Odhiwrthyf yn fuan:

Trevliais o antur wiwlan

Trwy d’arfod gernod nid gwan.

11Pan gerydhi rhi fy ior hael wann-wr;

Am anwiredh drafael:

Trevlia dyn fal gwyfyn gwael;

Gwagofaint yw goeg afael.

12Gwrando klyw erglyw irglau ing waedhias,

Fy-ngwedhi am dagrau:

Dieithr wyf fry ir tuy tau

Ion hoewdeg fal y-nhadau.

13Dal dy ofid lid diwael wyf fwyn wyrth,

Fy nerth oni chaffwyf:

Kynn ym fyned nodhed nwyf

Obeithiawl ag na bythwyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help