1Ith flinder gwirdhuw Duw gwrandawed
Ae dha hoff enw ith ymdhiffynned:
2Or nefoedh dirion help danfoned
O Seion eglwys brydferth nerthed,
3Dy offrwm ae dhal deffry medhylied
Dy aberth llesg werth dy borth llosged:
4A fynnych rhwydhwych yty r[h]odhed
Dy am kan yn lan ef kyflowned.
5Gallom yn llawen fod heb golled
Oth iechydwriaeth ffraeth y ffrwythed:
Yn deg, o enw vn Duw ogoned
Gosod i stondardh yn hardh lle’r hed.
Kaf fwy lawenydh d’arch kyflowned
6Gwnn nawr ir arglwydh wiwrwydh wared:
I frenhin dewin ef gwrandawed
Oe sei[nt] war garv nadhv nodhed.
Drwy nerth draw i dhehe vlaw hwylied
7Rai yw ke irr dhe wrair a ymdhiried:
Rai yw meirch brasgeirch rhag i brwysged
Koffawn i enw Duw gwiwdhuw o ged.
8Plygant a syrthiant Rhai oe serthed
Kodwn kydlafwn Duw an kadwed:
9A archwy ’n hylaw Duw gwrandawed
Yn deg hael awydh vnduw klowed.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.