1Clodforwch molwch Dhuw mâd dwedwch
Mae da ydyw’n wastad:
Cans pery ’n faith hoewiaith hêdh
I drugaredh drwy gariad.
2Pa chwant di-rithiant a draetha dyrnod
Cadernid Iehosa?
O fûnud pwy a faneg
I fawl dêg diofal da?
3Gwynn i byd i gyd rhag gwyth duw gwedi
A geidw i farn yn syth
Hwnn a wnêl yn lle deler
Gyfiownder bob amser byth.
4Graslonrwydh f’arglwydh da fyd y kefais
Cofia ith bobl hefyd
Ylêni a mi ym-wel
O waith ûchel ath iechyd.
5Daeoni gwêli i’r gwyr gwadh diau
A ’r dyn dewis llowradh:
Gorfoledh dy’tifedhiaeth
Ith genhedlaeth gain adladh.
6Gida n tad wiw-sad pechasom gimaint
O gamwedh y gwnaethom:
Anwir beilch yu wyr y byd
O fowyd nyni fûom.
7Ni dhelltynt dwedynt yn tadau ir Aipht
Yr holl ryfedhodau:
O fesur ni chofiason
I rwydhion drugaredhau.
An-ufudh ae budh bronn bôdhi fûant
O feiau gorhodri:
Wrth dhygyfor y moroedh
Y môr coch oedh merciwch i.
8Achubodh hwy a bodh a bid yma ’n iawn
Er mwyn i enw gwelid:
Dyna ’r modh i’r adwaener
Diweir-nêr ae gadernid.
9Cerydhodh sychodh y mor coch (sant) noeth
A gwnaeth lwybr a gerdhant:
Trwy flinder dyfnder yn dal
Fal annial hwy foliannant.
10Achubooh yn rhodh er hynn oedh alawnt
O dhwylaw y gelyn:
Gwaredodh ni dhaliodh wg
O gilwg sedhiant gelyn.
11A ’r dyfroedh ar goedh a geuynt lonaid
I gelynion llyngkynt:
A diau nie gadâwyd
A hanwyd vn o honynt.
12Yna cûr dwysa credasant orig
I eiriau f’anwylsant:
O lefain I fawl efo
Cwyn iso y canasant.
13Yno digofio dygyfor uthrwaith
I weithred i’r kefnfor:
Ag heb dhisgwyl gwŷl a gwên
Ag angen am i gyngor.
14Blysio ’n waeth a wnaeth noethwch y dyrfa
Dirfawr i’r anialwch:
Temptio mowrder nêr yn ol
Affeithiol i’r diffeithwch
15Nôdes a rhodhes wir hynt ymannos
I damuniad vdhynt:
Yn y fann e dhanfonawdh
Gwael oer-nawdh gûli arnynt
16Cyffroisant fyw-sant Foesen ag arswyd
Yw gwersyllt aflawen:
Sant yr arglwydh nis llwydhynt
Gwirion hynt ag Aron hên.
17Y dhaear dhîg âr egorodh o daith
A Dathan a Lyncodh:
Cynulleidfa goeca gam
Abiram ir pwll bwriodh.
18Tan blîn yniwin kyneuodh lledfarw
I cynulleidfa ae deifiodh:
Yr anuwiol bydol beilch
Y llesgweilch fflam ae llosgodh.
19Yn wyneb Horeb ymdhihirant wyr
Y llo aur a wnaethant:
I dhelw dawdh adholiad oedh
Grym oesoedh ymgry masant.
20Troesant ogoniant i gyd yn wael iawn
Ae lûn mewn aflendyd:
Faleidion ar y fronwellt
A bawr y gwellt a brîg yd.
21Duw siwr achubwr a chwant awenydh
Yno anghofiasant:
Yn yr Aipht a wnelsai ’r ion
Y mowrion bethau ymyrrant.
22Pêth rhyfedh duedh diwair yn iôr rhydh
Yn-hir Ham heb lesfair:
Pethau ofnadwy fwyoch
Yn y môr côch mawr eu cair.
23Dinystriai dwedai arw dôn i anadi
A hynny ’n dra diglion:
Gwnaeth Moeses les rhag i lîo
Dinystriesid naws trowsion.
24Gwedhol dhamunol dhymuniant wyr taer
Ar tir distyrasant;
I air fyth orau o fawl
Dewisawl ni chredasant.
25Grwgnach siaradach ysy rwydh yw pobl
Yw pebyll mae aflwydh:
Ni wrandowsant nwyfiant nôd
Lwys fowrglod lais fy arglwydh.
26Oe fodh agorodh i lâw gaeth wir-boen
Yw herbyn yn helaeth:
Yno yw cwympo trô trwch
Ir anialwch rann alaeth.
27Ag i gwympo trô antur oedh o hawl
I hâd mysg cenhedloedh:
Ac ar far yw gwasgaru,
Drwy watwaru drwy i tiroedh.
28Ymgyfarfu bû heb au hap awydh
Baal‐peor a nhwythau:
Byd dâ eusoe[s] bwytasant
O borthiant feirw aberthau
29I blant digiasant Duw gain diofal
Ae dyfais eu hunain:
Ag yw mysg e gymysgod[fodh]
Tra[w]odh pla y truain.
30Phinees dysyfes Duw a safodh ion
Ag yn iawn a farn[o]dh:
Ag yna y plâ oe plû
Yw teulu a attaliodh.
31Rhifwyd hynn Duw gwyn dûg yno feudith
Yn gyfiownder etto:
O genedl i genedl a gwawl
Trag wydhawl y trig idho.
32Digiwyd êf Duw nêf dann ofyn afrad
Wrth dhyfroedh yscymyn:
Drygwyd Moeses a drygwaith
A châs iaith o achos hynn.
33Cythrudho yno i einioes aspri
I yspryd a dryg-foes:
Cam‐ymadrodh gormodh gau
Oe wefusau fu eusoes.
34Heb dhinystriaw drâw dyna drai t bebyll
Yr oll bobl ae llidiai:
Wrthynt arglwydh rwydh ar air
Dewisair fal dwedasai.
35A ’r genedl wir‐chwedl o arw‐chwant golud
Mewn gwely ’mgymysgant:
I gweithredoedh coedh nid cél
Dasg isel hwy ae dysgasant
36Ag ir gau dhuwiau lle dhânt i beeni
Beunydh y gwasnaethant
Y rhai a dwyllai ar hyd
O fywyd i magl fuant.
37Yn aberth cyngerth y caid eu meibion
Heb dhim obaith enaid:
Ae merched gweled yn gaeth
Vthr alaeth i gythreuliaid.
38Gwaed gwirion union rhai onest diau
Ai dywallt yn rhyffest
Gwaed i meibion llon ar llêd
Ae merched, nid mwy drcheft.
I G[a]nan Dhuwiau o gynwaed borth is
Aberthasont ir‐waed:
Halogwyd i hiliogaeth
Yt air gwaeth i tir a gwaed.
39Ae gweithredoedh koedh y gwydhant fwy oll
Felly ’mhalogasant:
Mwy wêgi as dychmygion
Yn weision puteiniasant.
40Cyneuodh digiodh ond aeth yn wirboeth
Yn erbyn i bobl ffraeth.
Ffieidhiodh trwy or modh trîn
At fydhin i ytifedhiaeth.
41O wres e rôdhes râdhoedh yn alaeth
Yn nwylaw ’r cenhedloedh:
Ae cas llywodraethasant
A gair o chwant goruwch oedh.
42Garw-dhyn i gêlyn y gwelwyd wrth rym
I gorthrymn wnaethpwyd:
Tann idwylaw a brâw brau
Gwst angau i gostyngwyd.
43Mynych gwâr ydych gwaredodh cû ing
I cyngor ae digiodh:
Am eu hanwiredh medhir
Y cûrir sawl nis cârodh.
44Pand oedh ing cyfing cofiodh dhaeoni
I dhynion edrychodh:
Pann glywodh ef i llefain
Ae germain griô gormodh.
45I ammod hynod henwodh yn honnaid
Iôn hwnnw a gofiodh:
Oe fowredh drugaredhau
Tyst eiriau y tosturiodh.
46Rhoes ’n hael i gael teg wilio trwy gûr
Beth trugaredh yno:
Gann rai ae gwnaeth yn gaethion
Ger ibronn i garu brô.
47Achub ner tyner iawn yt oedh a da
Ti yw Duw y llûoedh:
Cynnull ni o blith (dichwith daith
Cûn odli) y cenhedloedh.
Yn hynod dyglôd a cludant downus
I d’enw gywirsant:
I ryfedh orfoledhu
Da ofalu dy foliant.
48Bendigaid mowr-blaid Amen o ras-rôdh
Yw Duw ’r Israel llawen
A bû er ioed fal y bŷdh
Tragywydh y trig awen.
Ag o bwyll didwyll dyweder i bawb
Oe bobl ef yn dyner:
Felly bo gwirio gariad,
Aml yw ’ch nad, molwch nêr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.