1Melys yw kanu moliant
Moli Arglwydh yw swydh sant:
Kanu kaink yw enw o kaf
Y gwr owchus gorvchaf.
2Traethaf i rad kariadawl
Y borau im oes bêra mawl:
Ae wir ae barch orau byd
Hynn a saif y nos hefyd
3Ar ysturmant purdant per
Ae dhegtant o dhidhigter;
A chowydh gwych awydh gwŷn
Iaith hylwydh krwth a thelyn.
4Tydi ath waith ryfaith ri
Yn wych am llawenychi.
A llawen a fydh gennyf
Waith dy dhwylaw hylaw hyf.
5Gwnn adhef gogonedhawl
Doethiaith yw dy waith ath hawl,
A dwfn a braisg di-ofn brau
Fydh eilwaith dy fedhyliau.
6Dyn anoeth du wen wynig
Ni wyr hynn oe dersyn dig,
Y ffol gwael ni bydh ffel gall
Os dowaid hynn nis deuall:
7Ag an wir er i gynnydh
Fal dail y gwiail ar gwydh.
Er bod drwy wg rhai drwg draw
Blaid ieuank yn blodevaw:
Diffodhant todhant at hawl
Drwg vdhynt yn dragwydhawl.
8Eithr tydi fy rhi rhwydh
Wyt hynod eurglod arglwydh:
Yn vchel dy wehelyth
Yn orvchaf bennafbyth.
9Dy elynion Duw yleni
A ledhir yn wir in ni:
Ag a wnel drwg kilwg hir
Yn estron a dhinystrir.
10Tydi am dyrchefi ’n chwyrn:
Ior enkyd fel yr vnkyrn:
Am hiro ag olew newydh
Yn brydferth a hoewnerth hydh.
11Kaf weled er serthed son
Galanedh om gelynion:
Achlowed oered orig
Yn fyerbyn deldhyn dig,
A gododh fal draig wedi
Mowrboen oll im erbyn i.
12Y kyfion doeth kofion da
Fawl duwiawl a flodena:
Fel Cedar brenn y sblennydh
Ar fronn libanon y bydh.
13A blanner is irder swydh
Lles fowrglod yn llys f’arglwydh
E flodeua fawl duedh
Yw lys gwych liosawg wedh.
14I Frwyth ae dylwyth yn deg
Yn iach henaint ychwaneg,
Bras a fydh a rhydhy rhawg
A diwael a blodeuawg.
15Dengys fod f’arglwydh downgoeth,
Yn gryf dhewr yn groewfyw dhoeth:
Nid oes mae ’n hynod i wedh
Ni erys dhim enwiredh.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.