1Gwynn i fyd i gyd yn gall a farno
Furniad truan anghall:
Mewn dydh o gwilydh a gwall y gowraint
Fo ae gweryd duw ’n dhiball.
2Arglwyh keidw ef wiwfyd rhwydh adhas
Rydh idho hir fowyd:
Ar y dhaear far fwy wryd gwelwch
Gelyn ni chaiff wynfyd.
3Dyfal Duw ae kynnal dau kannawr eilwaith
Yw wely dolurfawr:
He fyd y klefyd klwyfawr trwy nychu
Troi yn iechyd gwerthfawr.
4Duw o bwyll didwyll y dwedais draw gyrr
Drugaredh a efynnais:
Gwna fi ’n iach bellach mi a bwyllais eurbor,
Yn d’erbyn y pechais.
5Edrych goel anwych gelynion rhygas
Ym rhegu ae melltithion.
Pa dhydh y derfydh a garw-don dirfawr
Y derfydh i gofion.
6Im gweled heb ged pe do gant coel eidhil
Kelwydhau a dhwedant:
Anwiredh fowredh fyfyriant ollawl
Ag allan y traethant.
7Fynghas oer diras arw ederyn eusoes
Yn si[s]ial im erbyn:
Pob drwg o gilwg a gwyn i minnau
Damvnant im kalyn.
8Mae’nglyn im kalyn cywilydh medhant
Mewn modhion anghelfydh:
Ni chyfyd ir byd mwy ni bydh rhwydhynt
Pann orwedho ’n efrydh.
9Karwn y gwr hwnn rhennais a wydhwn
Idho ’r ymdhiriedais:
Fo wingodh oe fodh gwae fais im erbyn
Mowrborth idho a rennais.
10Duw tri am kodi kydwedh rhi uniawn
Ranna ym drugaredh:
I geirian minnau om annedh a dal
A dial or diwedh.
11Oedhwn felly gwnn gennyd mawr ydoedh
Gyme radwy he fyd:
Llawenydh ni bydh or byd im gelyn
Y gwael was an-hyfryd.
12Kynheliaist deliaist da wedh im ked waist
Di am peraist im puredh,
Gosodi mynni ym annedh yn d’wydh
Didhan byth yw ’ngorsedh.
13Bendiger y ner ion hael o gariad
Dewisrad Duw Israel:
Amen ag Amen a mael y gwedhai
Tragwydhawl yw ’r afael.
Yr ail llyfr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.