1Molwch, gelwch ar Geli;
Dawn yw canu i ’n Duw ni:
Prydferth yw mawl parodfyw,
O fwriad oll, hyfryd yw.
2Duw cad sy ’n adeiladu
Caerusalem, loywdrem lu:
E gasgl Duw nef o’u gwasgar
Blant Israel a gafael gwar.
3’Rhai a briwdon galonnau,
Hwn yn wych oedh i ’n hiachau;
Yn rhwymo, nid gweithio gwall,
Eu doluriau, dal arall.
4E rifa yr Iôr ufydh
Gynnifer o ser y sydh:
A geilw hwynt yw gloywhau,
Hynod ser, wrth eu henwau.
5Mwy o rad, Iôr mawr ydoedh,
A mawl ei nerth aml iawn oedh;
Cyfrif aneirif i neb
(Ddoeth Un!) yw ei dhoethineb.
6Duw ’n gofal cynnal y caid
Etto ran y trueiniaid;
Gostwng i lawr, hoywfawr hawl,
Yn euog, rai annuwiawl.
7Cenwch i ’n Nêr, wychder wedh,
O fwriad, mewn clodforedh:
Datgenwch a chenwch hyn,
Ydolwg, ar y delyn.
8Gwlaw ir dhaear yn barod,
Cwmmwl rhydh ef i nef nod;
Gwellt ir mynydh rhydh y rhawg,
A llysiau i dhyn lluosawg.
9Rhwydh hyfedr y rhydh hefyd
Borth i ’nifeiliaid y byd —
I gywion brain, blinion blant,
Poen o lafur, pan lefant.
10Y mae ’n dhibris, mwy unawr,
O nerth y march, na’i wyrth mawr:
Pleser ni chymmer (wych Iôu
Dawnus) o goesau dynion.
11Hoff gandho, eidho adhysg,
A’i hofno (Duw), fwyna’ dysg;
O bwyth, sawl a obeithio,
Gwiwradh, o’i drugaredh o.
12Caerusalem, cair solas,
Mola ’r Arglwydh, rhwydh ei ras:
Seion, (mael Iôn,) molianna,
Duedhu dysg, dy Dduw da.
13Yn gadarn yno gedid
Farriau dy byrth, o fryd, bid:
Bendithiodh, elwodh wiwles,
Dy blant, a llwydhiant a lles.
14A choel fraint, hedhychol fro,
O brifiant, a bair efo;
A ffrwyth gwenith dichwith, da,
O faith dhull, fe’th dhiwalla.
15Gorchymmyn denfyn hyd ar
Duedh eithafion daear:
I air rhed, yn orau rhan,
Yn fywiog, ac yn fuan.
16Ti a rodhi, gyrri ar g’oedh,
Oera’ gwlan, eiry glynnoedh;
Y rhew a’i daenu, er hyn,
Llwyd ar hyd, fal lludw rhedyn.
17A bwrw ia, heb awr o au,
Mwy wedi, fal tammeidiau:
Pwy a erys, grymmus gri,
Gwn arwnad, gan ei oerni?
18Unfodh, ei air a enfyn
I’w todhi hwynt, hawdh yw hyn:
Chwyth ar hynt y gwynt ar g’oedh,
Dufrych llifa y dyfroedh.
19I Iacob teg‐fynegi,
Diwair doeth, dy eiriau di;
A’th dhedhf a’th farn, gadarn gael,
O dhewisrodh, i Israel.
20Fo all, ac ni wnaeth felly
Ag un genedl, freisgchwedl fry;
Nid adwaenynt, ar hynt rhwydh,
Oreurglod, farn yr Arglwydh:
Molwch f’Arglwydh, mawrlwydh mawl,
Dro gwedhus, yn dragwydhawl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.